Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyraints

gyraints

Ganddo ef nid coeden gyraints duon fyddai'r goeden ond coeden dyfu perlau, a masnachwyr perlau Llundain wedi gwisgo colyn llidiard yr ardd i lawr i ddim, gan amled eu mynd a dod i gyrchu'r perlau dihysbydd hyn.

Petai'r goeden gyraints duon honno gan yr estate agent , ac yntau eisiau ei gwerthu, ni fuasai'n chwarae o gwmpas gyda rhyw lol am haul a lleuad.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.