Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyrff

gyrff

Rhain yw'r union bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o gyrff llywodraethol sefydliadau megis Coleg Ceredigion a'r CCTA yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu yn eu cyfrifoldebau i siroedd gwledig Cymru.

Y Llywodraeth yn cyhoeddi Mesur Iaith a hynny'n arwain at roi i'r iaith gydraddoldeb ar gyrff cyhoeddus, ac at sefydlu'r Bwrdd Iaith yn gorff statudol.

Os na fydd y Cynulliad yn weithredol ddwyieithog, fe fydd hyn yn gyfiawnhad pellach i gyrff eraill barhau i weithredu yn Saesneg a rhoi sglein dwyieithog ar gyfer y cyhoedd.

Yn ail, er mwyn i'r iaith ddod yn gyfrwng cyfathrebu byw, rhaid rhoi i bobl Cymru y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i ddefnyddio'r iaith yn naturiol wrth gynnal eu busnes neu wrth dderbyn gwasanaethau dwyieithog gan gyrff neu gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru.

Cyfrannodd swyddogion a chynrychiolwyr PDAG i drafodaethau nifer o bwyllgorau a gweithgorau a berthyn i gyrff addysgol eraill.

Wrth gwrs y bydd yna gyrff canolog i gydlynu polisi a chyllidebau, ond cyrff i ateb gofynion y cymunedau fydd rheiny.

Nodir hefyd ar ddiwedd pob adran y prif gyrff y mae'r Bwrdd yn dymuno cydweithio â hwy.

(b) Ymgynghoriadau gan Gyrff Cyhoeddus neu'r Cyngor Sir fel Awdurdod Ffyrdd ar faterion cynllunio cyffredinol lle nad oes hawl statudol gan y Cyngor i ddeddfu ynglŷn â'r materion e.e.

Y cwbl a roddodd Deddf Iaith 1993 inni oedd Bwrdd yr Iaith a'r disgwyliad ar gyrff cyhoeddus i baratoi cynlluniau iaith.

O ganlyniad i'r Ddeddf, mae statws a phroffil yr iaith wedi cynyddu'n sylweddol a gall y sawl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn awr ddisgwyl gwasanaethau helaethach nag erioed drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyrff sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Ystyriwn mai gwaith o natur cyhoeddus a wneir gan asiantau fydd yn ceisio am gomisiwn i roi gwasanaethau cymorth i ysgolion a cholegau unigol, megis hyfforddiant-mewn-swydd, ymgynghori neu arolygu (dan gomisiwn i SPAEM, i'r Cynghorau Cyllido neu i awdurdod lleol), gan fod y fath wasanaethau wedi'u cynnig hyd yn ddiweddar gan gyrff cyhoeddus, awdurdodau addysg lleol yn enwedig ac, yn achos arolygu ysgolion a cholegau, AEM a oedd yn atebol i'r Goron.

Yn Llundain, 800 o gyrff heb eu claddu oherwydd streic gan ymgymerwyr angladdau.

Yn ogystal, cyfunir gwaith y Cyngor Gwarchod Natur a'r Comisiwn Cefn Gwlad gan un corff yn yr Alban a Chymru, ond bydd y Cyngor Gwarchod Natur a'r Comisiwn Cefn Gwlad yn parhau'r gyrff ar wahân yn Lloegr.

Mae'r cynnydd yn statws yr iaith yn arwain at gynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn y sectorau gwirfoddol a phreifat hefyd wrth i gyrff a chwmnïau sydd â chysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru fynd ati i ddatblygu eu gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Rhoddir pwyslais ar bartneriaeth rhwng yr holl gyrff (ysgolion, AALl, awdurdodau iechyd dosbarth, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, cyrff gwirfoddol ac, wrth gwrs, rhieni).

Dylid felly roi i gyrff a chwmnïau y cyfleusterau, y gefnogaeth a'r anogaeth i ddarparu ar gyfer pobl sydd yn dewis defnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddelio gyda hwy, ar yr un sail â phetaent yn dewis defnyddio'r Saesneg.

Mae hefyd yn ffaith galonogol fod y prosiect wedi derbyn nawdd amrywiaeth o gyrff cyhoeddus gan gynnwys HTV a Gwasg Rhydychen, eto yn arwydd pellach o'r ymddiriedaeth yng nghwerth a llwyddiant y gyfres hon.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Daethpwyd o hyd i gyrff y ddau frawd gyda'i gilydd ger y ffynnon wrth odre Craig Irfon a dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Brodyr.

Gwe awduro safonol i gyrff cyhoeddus a chwmniau Cymraeg gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.

Ysgrifennent lythyrau caru at ei gilydd; edrychai rhai carcharorion yn gariadus ar y bechgyn Borstal a gwyddai meddyg y carchar am y poenydio ar gnawd a'r dirdynnu ar gyrff.

yn drychfilod sy'n byw, neu yn datblygu, ar gyrff organebau eraill).

Y gwir yw eu bod yn gorfod bwyta rhannau mwy sensitif o gyrff hyrddod.

Tua dwsin o fechgyn wedi cyrraedd yma o Loegr - y to dan ei sang o gyrff yn y nos.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o gyrff sydd, ym marn y Bwrdd, â rhan allweddol i'w chwarae mewn datblygu sefyllfa a statws y Gymraeg.

Un o brif amcanion Deddf yr Iaith Gymraeg yw sicrhau fod cyfle i'r rhai sy'n siarad Cymraeg gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg drwy osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru i baratoi a gweithredu cynlluniau iaith.

Dyma'r math o gyrff sy'n tynnu cyflogaeth o Gymru.

Awdurdodau lleol, yr unig gyrff â dyletswydd ystatudol i ailgartrefu'r digartref, yw ein prif ffynhonnell ailgartref o hyd.