Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyrhaeddodd

gyrhaeddodd

Pan gyrhaeddodd y Fishguard Express funudau wedi deg o'r gloch, er enghraifft, dringodd rhai picedwyr lwyfan troed y peiriant i ddadlau â'r gyrrwr ac i annerch y dyrfa.

Pan gyrhaeddodd, gwelai Rageur a Royal yn neidio i fyny ac i lawr grisiau pren y feranda.

Pan gyrhaeddodd gwŷr, gwragedd a phlant Uitenhage eu tref newydd dechreusant adeiladu eglwys newydd yn syth.

Y nodyn cynta' a wnes i yn fy llyfr oedd bod ambell un o'r cyrff main wedi'u lapio mewn sach fwyd a gyrhaeddodd yn rhy hwyr.

Ond bu rhaid iddo gyfaddef wrtho'i hun, yn anewyllysgar ddigon, fod golwg eithaf difater ar bawb - hyd yn oed y plant - a oedd yn y cerbyd hir, a'i galon ef yn carlamu gan gyffro eiddgar: a pharhau i guro'n gyflym a wnai pan gyrhaeddodd Paddington.

Pan gyrhaeddodd y bwthyn gwelodd fan Telecom yno, a gweithiwr wrthi'm hel ei bac.

Fel arfer, pan gyrhaeddodd fan arbennig symudodd ei droed dde i wasgu'r brêc er mwyn arafu'r lori fawr.

Pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, fe ddywedodd Abraham Lincoln wrtho na wyddai am ddim mwy pwerus na The Times, `heblaw efallai y Mississippi' ac, wrth gyrraedd India i roi sylw i'r Miwtini Mawr, fe drawodd fargen gyda phennaeth y fyddin i gael yr holl wybodaeth a oedd ar gael, ar yr amod na fyddai'n trafod hynny yn unman ond ei lythyrau i'r papur newydd.

Llongyfarchwyd y ddwy aelod o Gaernarfon a gyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn Y Drenewydd.

Pan gyrhaeddodd yno tua hanner nos canfu'r waled yn yr union fan lle'i gadawodd - ond o dan orchudd o eira.

Roedd nifer o'i noddwyr yn aros amdani ar waelod y twr gyda'u hanadl yn eu dwrn ond mi gyrhaeddodd y curad dewr yn ddiogel ar y llawr wedi codi swm sylweddol o arian.

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

Ymddiheurodd am nad oedd yno pan gyrhaeddodd, ond sicrhaodd ef hi nad oedd hynny o bwys am mai tu allan roedd y difrod.

Ymhlith y chwaraewyr ifanc sydd ar y daith mae Gavin Henson (Abertawe) a Robin Sowden-Taylor (Caerdydd). Roedd y ddau yn aelodau o garfan dan 19 Cymru gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan Ieuenctid y Byd yn Chile.

Er ei fod ef ei hun, fel aelod o deulu o Grynwyr, wedi treulio rhannau o'i blentyndod yn y naill gymuned a'r llall, mae'n gwybod am bobl a gyrhaeddodd eu deunaw oed cyn iddynt gyfarfod neb o'r 'ffydd arall'.

Doedd hi ddim yn gêm gyrhaeddodd yr uchelfannau.

Pan gyrhaeddodd y Cork Express am hanner awr wedi naw, cafodd Bevan ei gymeradwyo wrth iddo ddatgan: '...' .

Pan gyrhaeddodd y milwyr o boptu'r trên ymffurfiasant yn un rhes yn wynebu Bryn Road (lle'r oedd llawer o fenywod a phlant ymhlith y dyrfa), a dwy res gyferbyn â gerddi High Street.

Ond fe gyrhaeddodd bil y ffariar yr un fath, ac heb ei thrwshio roedd y bipan byth.

Ymhlith y siaradwyr diddorol (gan gynnwys John Jones, Rhaeadr Gwy, a gyrhaeddodd ei gant oed) y bu+m yn sgwrsio â nhw, yr oedd un â chanddo stori ddiddorol am ei brofiadau fel labrwr yn helpu i adeiladu'r argaeau dwr.

Fe aeth un stori ar led ym Mogadishu am griw teledu o'r Almaen a gyrhaeddodd ganolfan fwydo un prynhawn a dechrau gosod goleuadau ymhob man.

Pan gyrhaeddodd y dyn camera a minnau'r Laleh mewn tacsi, roedd e'n disgwyl amdanom yn y cyntedd.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Y mae'n sefyll yn llinach Radicaliaeth Cymreigyddion Llundain a gyrhaeddodd genhedlaeth Caledfryn a Samuel Roberts, Llanbrynmair, drwy'r Cymro ac ysgrifau Hughes yn Seren Gomer.

Pan gyrhaeddodd ei gartre dywedodd wrth ei wraig na fyddai byth yn derbyn galwad i bregethu yn yr eglwysi hynny wedyn.

Diolch yn fawr.' 'Tan fora Llun, Daniel, 'machgan i, tan fora Llun.' Pan gyrhaeddodd Dan waelod y grisiau, safodd yn ansicr, gan na wyddai ymhle i gael gafael yn y dyn bach.

A phan gyrhaeddodd ef a'i ffrind y lan, trodd at arweinydd y chwilod dþr mwyaf a dweud yn fawreddog, 'Diolch yn fawr, 'y ngwas i.

"Ww - traed mawr oedd ganddo fo." Dylan Iorwerth Fe gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar adeg o ferw gwleidyddol a chymdeithasol.

Serch hynny, yr oedd newyddion da oddi wrth ei wraig: yr oedd merch wedi ei geni iddynt ac yn chwe mis oed pan gyrhaeddodd yn ôl i Nefyn.

Bu'n caru gyda'u merch, Cathryn, am sbel ond pan gyrhaeddodd Carol Gwyther y pentre trodd Dic ei olygon tuag ati hi.

Ymddengys i Thomas Jones lunio cynllun cadoediad, lle byddai'r ddau drên a gyrhaeddodd nos Iau yn cael mynd trwy'r groesfan, pe byddai'r milwyr yn cilio i'r orsaf am bymtheng munud.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Roedd y rhyfel wedi dechrau ers naw diwrnod pan gyrhaeddodd criw `Y Byd ar Bedwar' faes awyr Ben Gurion yn Israel.

Pan gyrhaeddodd fy nhaid adra y peth cyntaf ddywedodd fy naid wrtho oedd 'Begw druan!

Ond un noson fe gyrhaeddodd bentre bach yn y gorllewin eithaf.

Pan gyrhaeddodd Curig Davies, yr oedd y côr wedi diflannu, mae'n wir, ond yr oedd tair ffidil neu bedair yn dal i barhau'r traddodiad cerddorfaol.

Ynghyd â'r tri newyddiadurwr arall a gyrhaeddodd y bore hwnnw, fe ges fy ngorfodi i newid cerbyd ddwywaith cyn croesi o ogledd y ddinas i'r de.

Pan gyrhaeddodd y ddau yn eu holau roedd mam Alun yn dal i eistedd wrth y tân.

Cafodd pawb amser wrth eu boddau a'r un faint yn dychwelyd ac a gyrhaeddodd yno yn gynharach.

`Y tro hwn mae angen achub pump ohonon ni.' Pan gyrhaeddodd y cwch dringodd Gunnar, ei deulu a'r ddau ddyn o'r hofrennydd i mewn iddi'n ddiolchgar.

Fe gyrhaeddodd Cymru rownd derfynol y plât.

Pan gyrhaeddodd Ginger a John Thomas o'u gwaith yr oedd gen i rywbeth gwerth chweil yn eu disgwyl.

Safodd Sandra'n ei hunfan pan gyrhaeddodd hi drofa.

Roedd hi'n bedwar o'r gloch y prynhawn pan gyrhaeddodd Doctor Idris Treharne a'i deulu bentre bach Llangi%an, ar lan môr Bae Ceredigion.

Pan gyrhaeddodd ben yr allt uwchben ei gartref, gwyddai'n syth fod rhywbeth o'i le gan fod golau'n y tŷ.