Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gyrrwyd

gyrrwyd

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai.

Yn ddiweddar gyrrwyd dau o feibion yr arglwydd Gruffudd i'r castell.

Gyrrwyd tystiolaeth ­ Bwyllgor Crawford ynglyn â hyn gan obeithio ei wella.

Yn Rhuthun yr oedd ei gartref, ond gyrrwyd ef i ysgol Westminster.

Pan geisiodd y gŵr camera ddringo i mewn i'r car, gyrrwyd y cerbyd i ffwrdd gan lusgo'r dyn ar ei hyd drwy'r mwd.

Gyda golwg ar foesoldeb yr holl fater, nid wyf am ddywedyd dim, nes caf weled vm mha ffurf y gyrrwyd hi i'r wasg yn wreiddiol.

Ystyriai'r ffermwyr bod yna ddigon o dyfiant porfa bellach a gyrrwyd y defaid a'r wyn i'r mynydd.

Gyrrwyd swyddog o'r fyddin yn ei gar swyddogol i fyny'r cymoedd fesul un, i hysbysu'r naill deulu ar ôl y llall fod rhaid iddynt ymadael â'u cartref, er mwyn i'r fyddin symud i mewn.