Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysglyd

gysglyd

Caeodd hithau'r drws ac aeth i eistedd wrth y tân, lle'r oedd Twm a Bet yn synfyfyrio'n gysglyd i ganol y fflamau.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Trodd Gwyn ati'n gysglyd.

WALI: (Yn gysglyd) Ddim nawr, cariad, rw'i'n gwylio'r newyddion.......

Ni byddent hwy yn cau ac yn agor yn gysglyd fel petasent am awgrymu bod gweithgarwch anweddus y tafod islaw sylw.

Ceisiodd ei orau i gael gafael yn y darn o haearn a ddaliai'r cloc yn sownd wrth ochr y llong, ond doedd ei feddwl ddim yn glir gan ei fod mor gysglyd, a chyn iddo sylweddoli beth oedd yn digwydd, roedd wedi disgyn i'r dŵr y tu ôl i'r llong!