Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysgod

gysgod

Ac meddai yn y Gynhadledd fis Mehefin dan gysgod Dinas Brân (a lle well nag yn nghartref Eisteddfod y Byd): 'Bydded i nynni yma, o Gymry, fod yn gosmopolitaneiddrwyddiediciach nag o'r blaen, a bydded i ni dderbyn 'a few ..' a 'few..' .

Wedyn fe sleifiem i gysgod drws siop, er mwyn rhoi llwyr rhyddid y dre i Miss Jones.

Dywed y trydydd pennill 'trydydd chwarter canrif ni wêl dy gnawd'; a derbyn mai angau yw'r 'trydydd carchar ac osgo'i gysgod arnad', yna pa 'larwm', pa ragargoel a gawsai SL.

Yn yr awdl hon mae'r bardd yn dychwelyd at y thema gyfarwydd o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonydd yn eu beddau am fod yr heddwch eto yn fregus dan gysgod y bom.

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Yna martsiodd ymlaen yn hyderus tuag at gysgod tywyll y porth.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Cododd Ivan ei ysgwyddau i geisio cael tipyn o gysgod rhag gwynt oer Rwsia.

Os gwelai pysgodyn gysgod ar y dw^r byddai'n amhosib ei ddal.

Ac mae'n amser iti gael gwybod Pitar, nad wyt ti'n ddim on niwsans wedi hanner ei berffeithio, a gwylia rhag i dy gysgod dy fychanu'.

Bydd rhaid iddyn nhw ddal i sefyllian yn y glaw oer hyd nes y daw rhywun o hyd i ryw fath o gysgod ar eu cyfer.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Dichon fod y diddordeb hwnnw fel yr ymddengys yn nhrafodaethau'r cylchgronau ar hyd y ganrif yn edrych yn ffansi%ol ac anwyddonol a hyd yn oed yn ffôl i'r sawl a ddisgynnodd o dan gysgod John Morris Jones.

Ar lan y môr heli ni thyfodd erioed Na bedwen na gwernen na draenen ar droed, Nac unmath o goedydd ond llwyni o frwyn; Dan gysgod y rheini daw defaid ag ţyn.

Y cinio a'r te yn cael eu cario mewn basgedi efo ni yn y trap mawr, a dada yn taenu canfas o dan gysgod y coed, a mam yn rhoi lliain gwyn "damascus", ar danteithion i gyd ar ben Tan yn cael ei wneud, a'r tecell haearn yn mynd ar hwnw i ferwi dŵr i gael gwneud te.

Trwy gil ei lygad, gwelodd gysgod o rywbeth melyn.

Mae Wendy'n teimlo trueni dros Peter druan, ac yn gwnio'i gysgod yn ol ar ei draed.

Arnbell dro fe ddywedai hanes yr heicwyr a'r dringwyr a ddeuai'n barhaus at ddrws ei fwthyn i ofyn am gysgod neu ddwr poeth--"Tydw' i'n trystio'r un diawl ohonyn' nhw, wyst ti.

Llonnwyd calonnau'r rhai a gredai wrth feddwl bod gobaith am ryw gysgod gwan o deyrnas nefoedd ar y ddaear gyda buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur.

Wedi i'r ddihangfa a wnaeth o sylweddau ei fore oes fethu--nid ffansi%au iddo ef--un peth a allai ei wneud a fuasai'n sicr o'i alluogi i wynebu'r byd yn ei gysgod--gwneud arian.

Cydiodd pob un yn ei arf gan gamu o gysgod y graig i aros am yr ymosodiad.

Roedd yn braf esgyn o gysgod y cwm i deimlo gwres yr haul eto.

Ond taflodd y clwy traed a genau sy'n bygwth Cymru rywfaint o'i gysgod dros y dathliadau.

Rhedodd hithau â'r lamp ar y bwrdd, ac erbyn mynd yn ôl ni welai ddim ond dau gysgod megis wrth y llidiart, ac un yn gweiddi "Gest ti hi?" wrth ymbalfalu.

Y Swyddog Ymgyrchoedd yw'r ymbarél sy'n gysgod dros grwpiau ymgyrchol y Gymdeithas a bydd yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Maes.

Eisteddfod dan gysgod y rhyfel oedd Eistedfod Dinbych ym 1939.

Yn ei bryddest mae Euros Bowen yn sôn am y bygythiad newydd a ddaeth wedi'r Ail Ryfel Byd, y gwrthdaro rhwng y gorllewin a'r dwyrain, rhwng y system gyfalafol a chomiwnyddiaeth, sef cyfnod y Rhyfel Oer, a'r byd dan gysgod difodiant.

Rydw i wedi mynd â fo adref ac wedi ei lapio fo yn y blanced oedd ganddo fo gael ei gladdu wrth ochr y gwely riwbob lle byddai o'n hoffi gorwedd yn yr haul o dan gysgod y dail.

Rwyt yn symud yn ofalus o gysgod i gysgod, ond er gwaethaf dy ofal mae rhywun yn dy weld.