Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysgodi

gysgodi

Gellir codi tô dros y bwrdd lle gall yr adar gysgodi; ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

'Y cyfan ry'n ni'n gofyn amdano yw'r cyfle i fyw.' Methais â chredu geiriau un gŵr oedd yn gorfod dibynnu ar flanced yn unig i'w gysgodi rhag y tywydd.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

Fe fu cynnydd yn nifer y llongau pysgota ym Mae Caerfyrddin a rhain yn ychwanegu at brysurdeb y lle wrth ddod i mewn i gysgodi adeg stormydd a dadlwytho yr helfa bysgod.

Gan fod fy nghar i'n digwydd bod yn ymyl, fe gafwyd perswâd arno i fynd i mewn i hwnnw i gysgodi.

Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.

Dyna pam fod rhai pobl yn credu ei bod yn ddiogel i gysgodi o dan dderwen yn ystod storm, am na fydd y mellt yn taro'r goeden.

Daw eraill at y goeden i gysgodi rhag y tywydd neu i guddio rhag y creaduriaid ysglyfaethus e.e.