Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gystadlu

gystadlu

Un arall o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y Gadair, mae'n debyg.

Buan y darfyddodd y ddarpariaeth yma - ac yna rhaid oedd iddo gystadlu am ei einioes.

Yma o'r diwedd yr oedd sŵn arall i gystadlu a su mawr yr aberoedd.

Mae cystadlu mewn Eisteddfod Genedlaethol, Urdd a Gþyl Gerdd Dant yn hollol wahanol i gystadlu yn Llangollen.

Y gwir plaen yw nad oes gan fwyafrif y cwmni%au Cymraeg na'r ddisgyblaeth na'r grefft i gystadlu ar y lefel yma ar hyn o bryd.

Mae Tîm Rygbi Dan 19 Cymru yn parhau i gystadlu'n llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Ieuenctid Cwpan y Byd yn Chile.

'Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd,' meddai llefarydd.

Arolygu safle ac amserlen BBC Radio Wales er mwyn cryfhau ei hapêl gyffredinol i gynulleidfa eang ar draws Cymru gyfan, ac i alluogi'r orsaf i gystadlu'n effeithiol gyda gwasanaethau newydd.

Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.

Un o orchestion bywyd yn ei holl agweddau yw ei allu i gystadlu am le a chynhaliaeth.

Byddai Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y capel bob blwyddyn yn y gwanwyn ac yno y dechreuais gystadlu.

Gydag amser, enillodd y Gymdeithas brofiad a chasglodd gronfa o wybodaeth na all yr un mudiad neu blaid sy'n sefydlu ei hun o'r newydd fyth gystadlu ag ef.

Yng nghyd-destun amgylchedd mwy cystadleuol o ran gwrando ar y radio mae lle i boeni o hyd am allu BBC Radio Wales i gystadlu am gynulleidfa.

Mae'r rhwyfwr Steve Redgrave, enillodd ei bumed medal aur yng Ngemau Olympaidd Sydney, wedi cyhoeddi y bore yma ei fod yn ymddeol o gystadlu.

Ai trwy gystadlu â'n gilydd, ysgol yn erbyn ysgol, pentref yn erbyn pentref, ardal??

Nid ydym wedi cadw at y rheol yn rhanbarthol, er mwyn cael mwy o gystadlu, ond os bydd cangen yn mynd i Fachynlleth - mewn un gystadleuaeth yn unig y gall gystadlu.

Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar ôl mynych gystadlu.

Cruella De Vil (Glenn Close) yw'r llall a hi syn tra-aglwyddiaethu yn y ffilm gyda dim ond anwyldeb y cwn yn gwir gystadlu a hi.

Arferai ei dad gystadlu llawer mewn gwahanol eisteddfodau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, a byddai'n dibynnu ar Euros i gwyrio a thrwsio'i gerddi.

Mae'n wir na all emynau Elfed fyth gystadlu ag ysblander rhai o emynau Ann Griffiths, dyweder.

A dim i gystadlu.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

Ni all afon Conwy gystadlu â hyn ond er hynny y mae'n cludo sawl mil o dunelli o waddod bob blwyddyn i Fôr Iwerddon.

Am resymau digon amlwg datblygai y syniadau hyn gan mwyaf yng ngwladwriaethau canol Ewrop a ddymunai gystadlu'n well â'u cymdogion gorllewinol.

Wedi'r cwbl, yn y pen draw ni all Cymru gystadlu gyda gwledydd Dwyrain Ewrop na'r Trydydd Byd ar sail llafur rhad.

Mae i ganwr neu gantores gystadlu yng Nghanwr y Byd Caerdydd yn ddigon i ennyn diddordeb cwmnïau opera a threfnwyr cyngherddau ledled y byd.

Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.

Tyfodd y label i gystadlu'n uniongyrchol â Crai gyda mwy a mwy o grwpiau ifanc yn ymuno a'r label.

'Bydd yna lot o gystadlu am le yn y tîm y tymor yma.

Tyddewi, wrth gwrs, oedd prif gyrchfan y pererinion yng Nghymru, er na allai gystadlu o ran braint a bri â Sain Siâm neu Rufain neu Gaersalem dros y môr.

Anogodd Mrs Pat Lloyd yr aelodau i gystadlu yn enw Merched y Wawr yn Sioe Caernarfon.

Dywed un gohebydd Americanaidd yn un o brif bapurau Lloegr fod saith o gorau Cymreig a saith o gorau Americanaidd yn mynd i gystadlu; ac nid hynny yn unig, ond fod côr Eglwys y Mormoniaid yn mynd i ddyfod o Ddinas y Llyn Halen i gystadlu yn yr Eisteddfod yn Chicago.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Noder hefyd fod y rheolau wedi newid eleni - yn ol y Pwyllgor Chwaraeon Cenedlaethol, "UN unigolyn i gystadlu mewn UN gystadleuaeth yn unig".

Am ein bod ni'n genedl fach, mae'n wir, ond hefyd am fod cymaint o gystadlu wedi bod yn ein gwythienna' ni 'rioed fel bod beirniadu bellach yn nhoriad ein bogail ni.

Bydd cyfle ichi ennill tocynnau i weld eich hoff fand yn perfformio, felly gwrandewch bob nos a ffoniwch 029 20 xxxxx5 i gystadlu.

Nid oedd y pwyllgor wedi penderfynu eto a oeddynt am gystadlu yn Sioe Caernarfon.

Cliciwch isod a gwrandewch yn ofalus cyn ffonio 029 20 5 i gystadlu.

Rhyddhawyd y fenyw rhag caethiwed beichiogrwydd a magu teulu, fel y gallai gystadlu â dynion ymhob maes.