Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysurus

gysurus

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Felly rhwng hynny, a'r hanesion am sut oedd pethau y tu ôl i'r llen haearn, 'doedd teimladau'r teulu yma ddim yn gysurus a dweud y lleiaf.

Mor gysurus a gwirion â'r chwedl fod mam wedi dod o hyd i mi dan y llwyn gwsberis.

Aeth y daith yn hwy na'i ddisgwyl, a threuliodd ei amser yn gwneud cyfrifon ariannol yn ei ben, a chael ei fod, hyd yn hyn, beth bynnag, wedi ymgadw'n gysurus o fewn ei ffiniau gwario am y dydd.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Bu+m yn ffodus eto i gwrdd â cherbyd modur, dan ei faich o Eidalwyr y tro hwn, a theithiais yn gysurus yn ôl i'r autostrada.

Daliwn i ddawnsio, i fwyta bisgedi, i wrando ar gerddoriaeth tra mae dec isaf y llong yr ydym yn eistedd mor gysurus arni'n prysur lenwi â dþr.

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Rydw i'n gysurus.

Nid oes garreg yn aros o aelwyd gysurus y 'Crown', ac nid oes ond atgof yn unig am unrhyw sgwrs a fu yno.

Rhoes gyfeiriad newydd i'r ymgyrch genedlaethol a gwae ni os barnwn y gellir cau'r adwy ar y cyfeiriad hwnnw yn y cyfnod cyfansoddiadol-gysurus hwn o Ddeddf Iaith newydd a Senedd i Gymru bosibl.