Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gysylltiad

gysylltiad

Wrth gwrs dwi allan o gysylltiad yn byw ym Mhen Llyn ond wrth fynd trwy Faldwyn a Meirion mae'n amlwg fod pethau wedi newid ynde.

Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.

Aros nes y daw o i gysylltiad eto ydi'r peth doetha.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod William Jones wedi cadw fawr o gysylltiad a Mon nac a Chymru, ond yr oedd ganddo gryn ddiddordeb mewn materion Cymreig.

Yn y cyfamser, roedd yr wythnosolion Cymraeg yn barod i gyhoeddi defnydd y Blaid, ac yr oedd gan dri golygydd gysylltiad agos a'r blaid - Meuryn, Prosser Rhys, (Y Faner) a Dyfnallt Owen (Y Darian), yr olaf o bapurau Cymraeg De Cymru.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Daliodd y bywyd gwledig, gyda'i gysylltiad uniongyrchol a'r gwerthoedd Cymreig ac a pharhad yr iaith Gymraeg, yn ganolbwynt eu canu.

Er fod ganddo gysylltiad â'r dref, ni chynhwyswyd Paul Davies, a theimlai ei hun yn un o bobl yr ymylon.

Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

O hir gysylltiad y ceffyl â'r diwydiant llechi daeth i fod sawl 'Llwybr Ceffylau'.

Dengys y traddodiad hwn fod gan y wlad gysylltiad â'r India yn gynnar yn ei hanes.

Daeth ei waith fel darlithydd mewn Hanes yn y Coleg Normal, Bangor, ag ef i gysylltiad agos iawn a chenedlaethau o fyfyrwyr ieuanc.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Roeddwn i yn falch tu hwnt, falle am fy mod i yn gallu teimlo rhyw gysylltiad neu frawdgarwch gyda'r Gwyddelod yn fwy na'r gweddill.

Gwêl rhai heddiw gysylltiad rhwng ei enw â chwlt yr arth.

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

Yr oedd nifer o'r tai wedi eu prynu gan y cyn denantiaid ac yr oedd rhai ohonynt wedi datgan eu gwrthwynebiad i dalu am gysylltiad i'r brif bibell.

Mi ddes i i gysylltiad a Euros Bowen pan o'n i yn Manafon roeddwn i'n mynd drosodd ambell i noson, ac roeddem ni yn sgwrsio am sut yr oeddwn i yn teimlo am dirwedd Cymru ac yn y blaen, ac roedd o yn dweud fod hyn, "yn dangos eich bod chi'n Gymro%.

Os crafwch ar y sepalau dan y blodau efallai y gwelwch glystyrau o ewyn gwyn arnynt, a dyma ni gysylltiad arall a'r gog, sef pwyri'r gog.

Yr oedd gan fynaich y ty hwn gysylltiad agos ê mynachlogydd Lloegr, treulient gryn amser yn Lloegr ac fe'u haddysgwyd yno hefyd.

A mynnai gadw hen gysylltiad y Brifysgol â'r werin.

Lledaeniad y Pincod Mae gan ddwsin o'r Pincod gysylltiad â Chymru (gweler y rhestr).

"Wyt ti'n meddwl fod yna gysylltiad rhwng y ddau?

Wel fedrai ddim dweud - roeddwn i allan o gysylltiad.

Ond doedd pawb yng Nghymru ddim wedi anghofio fod yna gysylltiad arall o bwys rhwng Cymru ac America ddydd Sadwrn - a hynny yn Stadiwm y Mileniwm pan drechodd tîm rygbi Cymru Eryrod America.

Ni welais neb yn y dref a chanddo gysylltiad â Chymru.

Nid ydynt i wneud un dim all beryglu y fath gysylltiad.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Roedd gan hyn gysylltiad uniongyrchol â'r ffaith fod Menem wedi treulio'r noson flaenorol, heb ei wraig, yng ngwesty'r Alvear Palace.

Ychydig iawn o Annibynwyr cynnar Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg a ddaeth i gysylltiad â Robert Browne neu Henry Barrow, heb sôn am Penri.

Mae cyn-gapten tîm criced India, Mohammed Azzaradin, wedi gwadu fod ganddo unrhyw gysylltiad â threfnu canlyniadau gemau criced.

Ychydig y mae pethau wedi newid yno ond mae Lenz yn synhwyro bod yno nawr fwy o gysylltiad personol rhwng y myfyrwyr ac y mae'n barod i ymgymryd â'r gwaith unwaith eto.

Yn gymysg â'r parch tuag at yr awdur, mae ymwybyddiaeth fod ei gysylltiad â'r ynys yn atyniad i ymwelwyr.

Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.

Mae ganddi gysylltiad â rhaglenni newyddion tebyg ar draws Ewrop.

Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.

Yn awr, hefyd, y daeth i gysylltiad â llyfrau printiedig ar raddfa weddol eang; o'r braidd y gwelsai lawer o'r rheini cyn muynd i Rydychen.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

Pan oeddech chi yn Manafon deuthoch chi i gysylltiad a phobl fel Iago Prytherch?

Ond ar y pwynt hwn gwnaeth gysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg addysg ac ansefydlogrwydd natur y Cymro a'r duedd at derfysg fel y Beca.

Bu Annes Glynn yn sgwrsio gydag ef am ei yrfa yn y coleg, y newidiadau a fu, y prinder o Gymry Cymraeg sydd yn dilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, ei ddiddordeb mewn ieithoedd a'i gysylltiad ag ysbiwr i'r KGB...

chan fod gan Fiet Nam gysylltiad clo\s â Moscow bryd hynny, roedd biwrocratiaeth yn rheoli pob dim.

Y diddordebau hyn a ddaeth ag ef i gysylltiad ag Abraham Ortelius, yr hanesydd a'r cartograffydd enwog o Antwerpen.

Gwaith, cyweithiau, gwybodaeth ynghylch y Gerddorfa a chefndir i rai o'r chwaraewyr fydd peth o'r cynnwys ar safwe sy'n bennaf ar gyfer ysgolion er mwyn hyrwyddo mwy o gysylltiad â Cherddorfa'r BBC â hithau'n methu bod yn bresennol yn gorfforol bob amser ledled y wlad.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

Mae gan un siliwm o un ddisg gysylltiad agos a siliwm o'r ddisg arall.

Daeth Cassie i gysylltiad gyda rhieni mabwysiadol Steffan ac o dipyn i beth datblygodd perthynas agos rhwng Cassie a Huw, tad mabwysiadol Steffan.

Yn bedwerydd, dyma'r cyfnod pryd y daeth Davies i gysylltiad agos â dynion a fyddai'n rymus iawn mewn byd ac eglwys yn ystod teyrnasiad Elisabeth.

'Byddai'n llawn cystal i chi adeiladu pencadlys newydd y Cynulliad ar blaned Mawrth ag ym Mae Caerdydd gan eich bod cymaint allan o gysylltiad a dyheadau'n cymunedau gwledig.

Pan roddir ef mewn asidau, mae'n troi'n goch, a throi'n las pan ddaw i gysylltiad ag alcaliau.

Rhoddir gwybodaeth am ei hynafiaid anniddig yn Eifionydd, y gymdogaeth y maged ef ynddi, a'i gysylltiad â Chrug yn Isgwyrfai a Dolwyddelan yng nghwmwd Nanconwy.

Trwy'r rhain eto daeth i gysylltiad a deallusion y cyfnod yn y Gymdeithas Frenhinol, cymdeithas a oedd wedi ei sefydlu'n arbennig ar gyfer ysgolheigion i hyrwyddo astudio gwyddoniaeth.

Yr oedd hynny'n ddigon, ond pan edliwiodd hwnnw iddo ei gysylltiad â'r Blaid Lafur a'i waith ynglŷn â'r Undeb methodd gan Wiliam ddal, a neidiodd i'w wddf.

Yn ystod abadaeth Lewis Tomas hefyd y canodd Tomas ab Ieuan ap Rhys ei gwndid nid anenwog lle sonia am ei gysylltiad bore a Margam ac am ei ddymuniad i gael ei gladdu yno.

Ac fe ddiflannodd pryder gwyr y llwyth ynghylch unrhyw gysylltiad a allai fod rhwng Hadad a'r gwragedd bron yn gyfan gwbl, gan na ddangosai unrhyw ddiddordeb ynddynt.

Ac mae'r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cau'r drws ar ragor o ymchwil i unrhyw gysylltiad honedig wedi arwain at ragor o ddrwgdybiaeth o gymhellion y llywodraeth.