Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gytbwys

gytbwys

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Mae'r cwricwlwm yn eang ac yn gytbwys, ac mae'n cwrdd â'r holl ofynion statudol.

Nid un wrthrychol, gytbwys, ond un am agwedd ar fywyd yn yr Almaen sy'n peri mwy a mwy o ofid imi.

Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.

Protestiodd Syr John Wynn mai ei brif uchelgais fel Swyddog lleol oedd cadw trefn a llywodraethu'n gytbwys a theg yn ei sir er iddo fethu â chyflawni hynny bob amser.

Gellir edrych, ar ryw ystyr, ar yrfa Maredudd yn enghraifft gytbwys o hyn.

Er hynny, y mae angen bod yn gytbwys.

Iddo ef, nid hanes pobl neu gymeriadau o'r enw Culhwch, Olwen, Arthur, Ysbaddaden, ac ati, a geir yn y chwedl, ond hanes arwrol un enaid dynol yn prifio trwy ei lasoed i oedoliaeth gyflawn, gytbwys.

Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.

Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae'r swm sylweddol o ymchwil a wnaethpwyd gan nifer fawr o ysgolheigion wedi rhoi inni ddefnyddiau lawer i lunio barn gytbwys.