Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gywilydd

gywilydd

Yn gweld cymaint yr oedd gan y gweinyddesau gywilydd eu gwisgo nhw.

Fu arnai erioed gymaint o gywilydd.

Dyddiau Martinelli, Schipa, Gigli a Rosa Ponselle oedd y rheiny, a hyd heddiw nid yw'n gywilydd gennyf ddweud gymaint y dotiais i atynt.

Teimlwn fod peth fel hyn yn dipyn o gywilydd.

"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Mi fydd yn gywilydd i'w galon o os gwnaiff o.' ' Fel yna y siaradai pobl.

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Na, ni fyddai arni gywilydd petai Americanwr yn galw heibio.

Yna, yn rhyfedd iawn, aeth y tafodau'n dawedog, a theimlodd pawb rhyw gywilydd o fod wedi chwerthin am ben un na wnâi ddim byd gwaeth na chadw iddi hi ei hun.

Bryd hynny teimlai Rhian gywilydd.

Synhwyrwn ei gywilydd weithiau pan edrychwn ar y rhwysg yn ei esgidiau a'r tyllau yn ei ddillad.

Y mae arnaf gywilydd na buaswn wedi ateb ynghynt y llythyr a gefais oddi wrthych dros flwyddyn yn ôl.

Pa Gymro nad yw'n gywilydd ganddo weld y nifer o eiriau Saesneg sy'n cartrefu beunydd yn ein hiaith?

Yr oedd gormod o gywilydd arnom ein dau i addef y gwirionedd.