Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haddasu

haddasu

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Gwelwyd hefyd ddylanwad llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc yn treiddio i'r traddodiad Cymraeg, nes bod llenorion yn benthyca naill ai destunau cyfan i'w cyfieithu a'u haddasu ar gyfer cynulleidfa newydd, neu'n codi enwau ac elfennau naratif unigol o'r ffynonellau estron, i'w hymgorffori mewn testunau cyfansawdd.

Y mae traed yr holl greaduriaid gwedi eu haddasu yn neilltuol i'w angenrheidiau a'u dull o fyw, fel y mae yn amlwg i sylw pawb a ystyrio hyny.

Y mae defnydd ohoni wedi'i chyfyngu i'r llafar gan nad oes iddi ffurf ysgrifenedig gydnabyddedig na gramadeg sustematig, na dim o'r offer ieithyddol ychwanegol fyddai ei angen i'w haddasu'n iaith ar gyfer addysg, gweinyddiaeth a defnydd swyddogol ffurfiol.

Ond mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Amaeth, Christine Gwyther, cyn y bleidlais y gallai'r cynnig ond nodi dymuniad y Cynulliad i wahardd cnydau wedi'u haddasu'n ennynol.

Yn rhai creaduriaid y mae eu traed gwedi eu gwneuthur yn dra chryfion i gynnal corph anferth, amrosgo, fel yr elephant: yn eraill y maent gwedi eu haddasu i chwyrnder a chyflymder, megys yr ewigod a'r ysgafarnogod...yn eraill i rodio a chloddio, megys y wadd...ac yn eraill i rodio ac ehedeg, megys yr ystlum, a gwiwer Virginia...

Os nad oes gennym chwedl gyflawn, ysgrifenedig am Drystan, boed honno'n stori frodorol neu'n un wedi ei haddasu o ryw ffynhonnell Ffrangeg, pa dystiolaeth sydd ar ôl i bresenoldeb traddodiad byw am y cariadon yng Nghymru?

Yn Skol Louarn Veig Trebern (Herve/ Trebern bach yn mitsio) hanes llai dramatig a gawn, ond â blas llawn cystal arno, lle crisialir atgofion plentyndod yr awdur, wedi eu haddasu ond ychydig ar gyfer cyfrwng llenyddol.

Mewn dull syml ond trawiadol, roedd cymeriadau'r straeon yn creu dihareb a fyddai'n aros yn y cof, a byddai'r ddihareb honno yn cael ei haddasu at eu byw bob dydd.

Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.