Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haddysg

haddysg

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Mae yna safon ddwbl ym mater yr iaith y mae plant yn cael eu haddysg trwyddi.

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

'Yn ddiweddar iawn, bid siŵr, oblegid masnach feunyddiol gyda'r Saeson, a'r ffaith fod ein dynion ieuainc yn cael eu haddysg yn Lloegr, a'u bod, o'u plentyndod (a siarad yn gyffredinol) yn fwy cyfarwydd a'r Saesneg nag a'u hiaith eu hunain, fe oresgynnwyd ein hiaith ni gan rai geiriau Saesneg, a chan ffurfiau Saesneg, ac y mae hynny yn digwydd fwyfwy bob dydd' meddai.

Maen nhw'n derbyn eu haddysg mewn sefyllfaoedd tra gwahanol ac o dan amodau gwahanol, gyda gwahaniaethau yn ardaloedd a maint yr ysgol, ym mhrif iaith a nifer y plant, ac amrywiaeth yn yr amser maen nhw'n treulio yn yr ysgol bob wythnos.

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Dengys ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gymreig y tir y mae'n bosibl ei ennill wrth gynyddu nifer y disgyblion a gaiff y cyfle i dderbyn eu haddysg yn y Gymraeg.

Ond nac anghofiwn am yr ysgol honno lle cafodd cymaint o blant y Rhondda eu haddysg uwchradd.

Yn aml ffurfir dosbarth gallu cymysg o blant a fydd yn derbyn rhan helaeth o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd ffurfir dosbarthiadau o ddysgwyr da a fydd yn derbyn cyfran o'u haddysg drwy'r Gymraeg.

Mae'r rheiny yn eu tro yn cynrychioli llawer o'r plant sydd wedi dod o gartrefi diGymraeg i gael eu haddysg yn yr ysgolion dwyieithog.

Cafodd y fam fyw i weld y plant wedi gorffen eu haddysg.

Wedyn fe gawn y rhai a ddechreuodd eu haddysg yng Nghymru a'i gwblhau mewn gwledydd eraill.

Ym 1992, cyhoeddwyd Maniffesto 'Cymunedau Rhydd — nid y Farchnad Rydd' — ynddi cawn fapio allan y ffordd ymlaen gyda pholisïau i roi i bobl Cymru grym real i greu dyfodol i'n cymunedau — o ran tai a gwaith i bobl leol, o ran rheoli'u haddysg eu huanin, o ran polisi iaith a rhyddid gwleidyddol.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

Dangoswyd cryn ddiddordeb mewn ffilm fideo, a gomisiynwyd gan PDAG ac a gynhyrchwyd gan Ganolfan Adnoddau Clwyd, yn olrhain hynt disgyblion, rhai o gartrefi di- Gymraeg, a dderbyniodd eu haddysg trwy'r Gymraeg.