Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hadnabod

hadnabod

Digwydd bod yn eu hadnabod dyna i gyd." "Ie, digwydd bod yn eu hadnabod!

Aethpwyd â Siwsan, y plant a minnau i swyddfa er mwyn ein holi eto gan swyddogion oedd yn awyddus i wybod sut roedden ni'n ein hadnabod ein gilydd.

* feithrin, cynnal a chadarnhau gwell perthynas gymdeithasol gydag unigolion o fewn y grwpiau yn ystod y cyfnodau plentyn-ganolog gan eu bod: -yn cael cyfle i'w cynorthwyo'n unigol pan fo angen y cymorth ar y disgybl, -yn dod i'w hadnabod mewn sefyllfa lai ffurfiol ac yn gallu arfer gwahanol fath o ddisgyblaeth ar wahanol gyfnodau yn ystod gwers;

Mae'r BSA wedi gosod safonau caeth ynglyn â lefelau 'aflatoxin' mewn cnau ar gyfer adar gwyllt, ac wedi lansio 'Sêl Cymeradwyaeth' a arddangosir ar gnau 'diogel', i sicrhau y bydd defnyddwyr yn eu hadnabod.

Ymhen rhai blynyddoedd priododd â gwr yn dwyn y cyfenw Shepherd ac fel - Pamela Shepherd y byddwn ni'n ei hadnabod o hyn ymlaen.

Mae astudio adroddiadau arolygwyr yn ei gwneud yn amlwg fod gan y naill beth effaith ar y llall h.y. fod creu amgylchfyd diogel a bywiog i blant, lle cant eu hadnabod a datblygu fel unigolion, yn hybu'r broses o ddysgu.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

I genhedlaethau o blant Y Felinheli a anwyd yn y blynyddoedd cynnar wedi'r rhyfel byd cyntaf, Miss Williams Bethel oedd athrawes y plant yn Ysgol Hen, ac felly y parhaodd i gael ei hadnabod ar hyd ei hoes ganddynt.

Yr ail wythnos oedd gwir ddechreuad y gwaith, chwarae â'r plant, dod i'w hadnabod nhw a'u teuluoedd a gwario amser yn VIC

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.

Gwelodd wraig ganol oed dal a gosgeiddig, ac wedi iddo ei hadnabod, synnodd ei gweld hi yn y tū hwnnw.

Camp y garddwr yw dod i'w hadnabod yn dda fel na bo'n chwistrellu defnyddiau cemegol yn ddiangen.

Drwy adnabod y meddwl a'r dychymyg hwn y down i adnabod yn llawnach y bobl y buwyd yn eu trafod yn y Rhan Gyntaf; gobeithio hefyd y down i'n hadnabod ein hunain yn well o ganlymad i hynny.

"Droeon wrth feddwl am faes glo'r De ac am lowyr yr wyf wedi eu hadnabod, 'rwyf wedi cael fy hun yn holi cwestiynau am eu lle yn llên y Gymraeg gan ddod yn anfodlon i'r casgliad nad oes iddynt mewn gwirionedd, fawr o le o gwbwl am nad yw'n llenyddiaeth yn siarad cyfaniaith eu profiad," meddai.

Mae plant wastad yn hoffi cymeriad maen nhw'n eu hadnabod o lyfrau eraill (fel Smot, Tecwyn), ac er bod cefn y llyfr hwn yn awgrymu ei fod yn addas i blant o ddwy i fyny, credaf ei fod yn addas i blant llawer ieuengach na hynny, sydd yn dechrau adnabod anifeiliaid.

Yn rhywle, mae Schumacher yn adrodd am y wers bwysig a ddysgodd pan oedd yn was ifanc ar fferm, mai peryglus oedd cyfrif gwartheg heb eu hadnabod.

Dyna un nad oedd raid iddi actio'n ei chwmni, un a oedd yn ei hadnabod fel cefn ei llaw.

Anhunanol - sut y gelli di ddweud y fath beth, a thithau'n ffrind gorau iddi, yn 'i hadnabod hi'n well na neb arall bron..." "Felly hwyrach fod gen i hawl..." "...

Wrth drwsio setts ar stryd yn Glasgow ryw bnawn, digwyddodd weld bachgen a merch ifanc yn dod i lawr y stryd ac er mawr syndod iddo eu hadnabod fel dau o Benmaenmawr.

Yn hytrach na ffynnu i fod yn Awstralia America Ladin, roedd y wlad wedi dirywio cymaint nes ei bod yn cael ei hadnabod fel Albania'r Cyfandir.

Tra bod Ffair Gaeaf a Stori%au'r Tir Glas yn gosod eu cymeriadau'n solet iawn o fewn cymdeithas hawdd ei hadnabod a sicr ei seiliau, ac yn rhoi mwy o bwyslais yn y pen draw ar y gymdeithas nag ar yr unigolyn oedd yn rhan ohoni, erbyn cyrraedd Yr Wylan Deg a Stori%au'r Tir Du, mae pethau wedi newid yn arw.

Roedd o'n ei hadnabod hi'n ddigon da i wybod na fyddai ei ffit o dymer yn para'n hir.

'Llunnir rhannau sylfaenol o'n bywyd gan ddylanwad y cwmwl tystion, a aeth o'n blaen arnom,' medd Peate yn Rhwng Dau Fyd; tystia'r hunangofiant trwyddo, serch hynny, i ddylanwad mwy cyrhaeddbell ac arhosol dynion byw y daeth i'w hadnabod yn bersonol.

Daeth hefyd ran o un chwarel i gael ei hadnabod fel 'Dyfn y Ceffyl Gwyn'; tra fod llwybr yn hanes cynnar chwarel arall yn cael ei alw'n 'Llwybr y Gaseg Wen'.

Yr oedd yr hen wraig y cefais i'r fraint o'i hadnabod yn siarp a sensitif hyd y diwedd, yn falch ac yn atgofus, yn feistres ar ei theimladau ac ar ei meddyliau.