Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haearnaidd

haearnaidd

Bron yn anorfod ar ôl rheolaeth haearnaidd y Sofietiaid, roedd rhyddid cenedlathol a rhyddid economaidd yn cael eu gweld yn un.

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

'Roedd hi'n gwneud ei gwaith yn iawn mae'n siwr, ond berfa bell, oeraidd, ffurfiol haearnaidd, ag wyneb mawr a dim dyfn ynddi hi oedd hi.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Ei huchelgais oedd cynnwys popeth y tu mewn i rwydwaith achos ac effaith a deddfau haearnaidd symudiadau mecanyddol.

Cred Martin-Jones fod dadansoddiadau fel rhai Gal a Gumperz yn welliant ar waith Fishman a'u gyd-weithwyr/-wragedd, yn yr ystyr fod y safbwynt micro-rhyngweithiol yn gosod pwyslais ar broses yn hytrach na strwythur, ac nid yw mor haearnaidd ^a dull Fishman efo'i bwyslais ar normau cymdeithasol.

Edrychai'r carchar iddo ef yn lle caled a haearnaidd heb gwmni merched, yn lle oer heb eu lliw, eu llun, a'u lleisiau.

Yr oedd y Pwyllgor Cyllid (ar gyfarwyddyd y Pwyllgor Gwaith, cofier) wedi dal gafael haearnaidd ar dreuliau'r wþl a theimlais fod y sefyllfa yn edrych yn ddigon addawol i ganiatau rhywfaint o ymlacio.

Mae'r system addysg ar fai i ryw raddau, mae'n siwr, gyda'i disgyblaethau haearnaidd yn cadw'r ddwy iaith ar wahan.

Lawer tro y maent wedi eu darlunio fel enghreifftiau o ddeddfoldeb haearnaidd ac ysbryd adweithiol mewn gwleidyddiaeth.