Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haeddai

haeddai

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Bellach fe'm hystyrid ganddo yn wrthwynebwr cyfysgwydd, ac yn un a haeddai ei regfeydd mwyaf creadigol.

Disgrifir ef gan Richard Prise fel 'y daearyddwr nodedig Humphrey Llwyd, sydd bellach wedi marw, ond a haeddai gael byw'n hwy ar gyfrif ei eiddgarwch diflino yn nisgyblaethau hanes a mathemateg'.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Ni chafodd ef y cyfle a haeddai, ac efallai nad oedd hynny'n bwysig yn ei olwg.

Wnaed y nesa' peth i ddim i liniaru'r newyn yn Somalia, nes ei fod yn haeddu cael ei alw'n newyn gyda'r gwaetha' yn hanes dyn; doedd gan newyn a haeddai ei alw'r gwaetha' yn Nwyrain Affrica ddim o'r un dynfa, mae'n amlwg.