Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haerai

haerai

haerai yntau.

Haerai fod y llestr hwnnw yn ei atgoffa o lestr y wraig o Sareffta.

Mynnai'r canoniaid fod Ferrar yn gohirio anfon papurau'r achos iddynt gyhyd ag oedd yn bosibl er mwyn ei gwneud yn anodd iddynt amddiffyn eu hunain a haerai Ferrar fod y canoniaid yn ei rwystro rhag gweld y dogfennau yn Nhyddewi a oedd yn diffinio hyd a lled ei waith a'i awdurdod fel esgob.

Fel yr enillai'r Saesneg dir croeso a bri ar bob llaw, haerai'r beirdd fwyfwy fod serchiadau'i chynefin yn dynnach nag erioed am y Gymraeg.

Haerai, hefyd, nad oedd y mab, erbyn meddwl, yn ddigon drwg i fod wedi cyflawni hunanladdiad, er ei fod yn ymddwyn yn od iawn ar adegau ac yn gweiddi fod llau yn torri allan drwy'i gnawd a bod rhywbeth o'i le ar ei ben.