Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hagor

hagor

Nid yn y daearau hyn y genir eu hepil - torllwyth o bump i naw fel rheol - ond mewn tyllau wedi'u hagor yn bwrpasol ar gyfer y rhai bach.

Gwelais nodi allan lle yr oedd y Railway i fod, a gwelais ei gwneud o Holland Arms i'r Benllech, a chofiaf ddydd ei hagor yn iawn, a sploet fawr yn Bryniau Plas Gwyn.

"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.

Dyma ddeuoliaeth glasurol Methodistiaeth Calfinaidd - ffydd emosiynol oedd yn ffynnu o'r galon, ond ffydd oedd â phrofion ohoni i'w canfod gan reswm ym mhob man yn y byd allanol, unwaith yr oedd llygad y galon wedi'i hagor i'w gweld.

Bu'r fintai fach yn disgwyl am ysbaid go dda cyn clywed y bolltiau'n cael eu hagor.

Caeodd ei llygaid am eiliad, yna'u hagor.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Nid rhyfedd felly y gwelir mwy o ysgolion a phrifysgolion wedi'u hagor yn Ewrop y cyfnod.

Ond yr oeddech chi'n anfoesgar wrtha i.' Gonest, nid anfoesgar.' Brathodd ei gwefus a bwrw cipolwg ar y llythyrau oedd heb eu hagor, yna edrych arno eto.

Roedd swyddfeydd dros dro wedi'u hagor yng ngwestai'r Hilton yn Jerwsalem a Tel Aviv, nid yn unig gan adran hysbysrwydd y Llywodraeth, ond hefyd gan y fyddin ei hun.

Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.

clywn fi'n dweud wrthyf fy hun, 'paid â ffrwcsio, gwna bethau'n ofalus bendith y tad i chdi.' Cymerais fy rhwyd o'm gwregys a'i hagor.

Ma'r giat yna wdi 'i gnwud i'w chau yn 'gystal a'i hagor." Ac ateb sydyn Robin, fel ergyd o wn.

Oherwydd ei ffurf cysylltid ambare/ l a pharasôl â'r haul, a daethpwyd i gredu ei bod yn anlwcus i'w hagor yn unman ond ym mhresenoldeb yr haul, hynny yw, y tu allan i'r ty ac nid y tu mewn.

Uchafbwynt yr ymweliad yma oedd gweld y Brifysgol wedi ei hagor a chyrsiau yn cael eu cynnig mewn coedwigaeth a bioleg y môr.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Ac erbyn i mi gyrraedd adra a'u hagor nhw, roeddwn i yn iawn.