Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haid

haid

Nid y ffaith seml ei fod yn idgwydd byw mewn haid sy'n perio i'r arbenigwyr ddweud hyddy, ond yn hytrach y ddibyniaeth er gwmni a phrofiad ei gilydd, a'r teyrngarwch i'w cymuned.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

I ganol tywod â haid o gamelod wrth ein tina ni.

Clywem eu sŵn fel haid o wenyn wrth inni sefyll y tu allan i'r drws, a chrynwn gan ofn.

Fe'i cefnogir gan haid o wleidyddion, cyfreithwyr, barnwyr, academyddion a dynion busnes, pob un yn cuddio tu ôl i'r honiad nad ydynt yn gwneud dim ond eu dyletswydd, gwy^r a gwragedd sy'n rhy ofnus i olchi'r piso o'u dillad isaf.

Heb arweiniad a doethineb y rhai hþn, byddai'r drefn gymdeithasol o fewn yr haid yn datgymalu, a hyd yn oed yn dymchwel.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

Cyrhaeddodd y gog eisoes a gelwir haidd wedi ei hau'n ddiweddar, ac felly'n gildio'n wael, yn haid y gog.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

Ar un adeg, fe geisiai'r wardeiniaid fod yn drugarog wrth gyflawni gorchwyl mor annymunol, a phenderfynwyd mewn rhai achosion mai'r drefn fwyaf dyngarol fyddai lladd y rhai hþn o fewn yr haid, a diogelu'r rhai ieuengaf.

Dydw i ddim wedi trio fy hun ond yn ôl haid o wyddonwyr o Brifysgol Llundain fedrwch chi ddim goglais eich hun.

Llwyddodd haid o ddewiniaid i greu'r argraff i ddyn da o deulu dedwydd gael ei ladd.

Tri chant o ddynion dethol oedd gan hwnnw yn erbyn lluoedd Midian ac Amalec, a oedd mor niferus â haid o locustiaid.

Hon oedd un o'r teithiau awyr uniongyrchol cynta' i mewn i'r wlad; o'n cwmpas ar yr awyren, roedd ambell Lithuaniad cefnog a haid o bobl fusnes o'r Gorllewin yn barod i chwilio am ddêl.

'Rydym ni yng Nghymru yn lwcus iawn gan ein bod yn cael cwmpeini y miliynau o adar a ddaw yma yn y Gwanwyn, a hefyd yn cael haid arall yn yr Hydref i liwio tipyn ar y Gaeaf i ni.

Yr unig ateb i'r cadwriaethwyr yn Affrica oedd dewis haid gyfan i'w difa, gan sicrhau nad oedd yr un creadur yn dal yn fyw rhag trosglwyddo'r dychryn i haid arall.

Roedd eu gallu i oroesi fel haid hefyd wedi ei danseilio'n llwyr.

Yna, cyn gynted ag y canai'r corn, cymerent y wib fel haid o waetgwn i lawr y ffordd haearn ac i'r mynydd.

Ond rhag rhoi'r argraff fod y bai i gyd ar y darllenwyr am beidio â sylwi ar lithriadau o eiddo'r golygyddion prysur, cystal gorffen trwy ddweud fod lle i gredu i un golygydd gael ei ddiswyddo gan y BBC am gyfieithu mai haid o wenyn oedd y "buzzard" a ymosododd ar fachgen o'r Canolbarth !