Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hallt

hallt

Ond os yw Johnson i ddioddef yn sgîl awydd eraill i gosbin hallt bob trosedd fechan yna mae'r gêm wedi colli ei phersbectif.

Ymosododd yn hallt ar bryddest Cynan am ddefnyddio geiriau sathredig, a gwrthododd ymddangos ar y llwyfan gyda'i ddau gyd-feirniad mewn protest yn erbyn eu dyfarniad.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Helena, yr oedd y cig moch yn hallt mewn casgen, yn wyrdd a'r sgedin caled yn llawn o wyfyn yr oedd lluniaeth wedi ei gondemnio gan y llynges.

A'u dagrau hallt yn llyn.

Yn ystod y pedair blynedd y bu+m yn cyfrannu erthyglau garddio i'r cylchgrawn soniais droeon am fethiant rhai planhigion i lwyddo ym mhresenoldeb gwynt hallt o'r môr.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Fyddai gennych chi fawr ddim ar ôl." Yn ddiweddar beirniadwyd y llywodraeth yn hallt am geisio mygu mesur oedd wedi ei gyflwyno i'r senedd fyddai'n rhoi mwy o hawliau i bobol anabl.

Mae gennym fel Cymry atgofion hallt am beth all ddigwydd gyda refferendwm.

Caraf deimlo'r awelon yn fy ngwallt, a blas yr eigion hallt ar fy ngwefusau.

Dychmygais hi'n cael ei difa gan lindys neu - a chrynais wrth feddwl hyn - yn cael ei gwthio i sosbaned o ddŵr hallt, berwedig a'i choginio, cyn cael ei bwyta gan bobl.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Beirniadwyd yr athrawon yn hallt am eu hanallu i siarad Saesneg a dysgu'r iaith yn effeithiol.

Er enghraifft, beirniada'n hallt y symud a fu ar gofnodion gweinyddol y bedwaredd ganrif ar ddeg o'r trysorlys yng Nghaernarfon i'r Tŵr Gwyn a swyddfeydd y trysorlys yn Llundain.

Ac wrth bregethu twymodd iddi ac ymosod yn hallt ar bethau fel gwisgoedd defodol, yr offeren, a llawer o'r arferion eglwysig.

Cofiwn am droeon y bu acw dafodi pur hallt cyn hyn am imi wario'n ormodol ar lyfrau.