Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamddenol

hamddenol

Ymddangosai'n debyg na fyddai Rod Richards, arweinydd y Ceidwadwyr, yn cael ei big i mewn gan fod ei gwestiynau ymhell i lawr y rhestr a'r gweithgareddau'n mynd rhagddynt yn hamddenol.

Nid yw'n mesur a phwyso'n hamddenol pwy oedd y bardd rhamantaidd cyntaf yn Ewrop - dim ond dweud yn awdurdodol mai Pantycelyn ydoedd, fel petai'n gwbl sicr o hynny.

Can hamddenol sy'n hynod swynol.

Daliwch chi hi yn ei dillad bod dydd ac mae Lisa Victoria yn annwyl, yn hamddenol gyda llond wyneb o wen.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Byddent yn werth mynd drwyddynt yn hamddenol a gofalus pan na fyddai'r un darlun arall ar ei meddwl i darfu ar bopeth.

'Diawch, tyrd allan o'r car 'ma,' meddwn i a heb i mi sylweddoli, roedd y car wedi gadael y ddaear ac yn gyrru'n hamddenol drwy'r awyr.

Mae yna naws hamddenol ‘dybaidd' i'r trac - sy'n arbrofol ac yn dangos hyblygrwydd llais Lauren.

Ennyd hamddenol a hyfryd yw honno yn y beudy pan ollyngir y buchod o'u haerwyon.

Breuddwydio am fywyd mwy hamddenol?

Am tuag awr fe aeth Jock a minnau ymlaen gyda'n gwaith yn eithaf diwyd, ond braidd yn hamddenol.

Daethom i'r casgliad mai cymryd pethau'n hamddenol yr oedd, a'i fod o bosibl yn clertian y tu cefn i un o'r tomennydd coed, ei ben bron hollti ar ôl yfed gormod o sake (gwin-reis y Siapaneaid) y noson cynt.

Nid yn unig hynny, ond mae llais Gethin yn ysgafnach na'r arfer, gan wneud yr holl gân yn fwy hamddenol.

Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.

Yna, ar ôl dychwelyd i ddiddosrwydd y wâl daw bwyd bras trwyddi yn y tail a bydd hithau yn ei gnoi a'i dreulio'n hamddenol.

Y mae yna awyrgylch i'r trac gyda chyffyrddiadau tebyg i'r Gorkys syn ei gwneud yn gân hamddenol braf.

Ffyrdd a newidiodd lawer ar batrwm cymdeithasol yr ardal oedd y rhain, gan rannu yr hyn a fu unwaith yn gymdogaeth hamddenol.

'Dan ni am golli'r pwysau yn hamddenol, ac felly'n fwy effeithiol, fel bod y corff yn cael amser i addasu.'

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

Naratif llinynnol a phob digwyddiad yn dilyn y naill y llall mewn trefn amseryddol yw hwn, ond nid yw mor lliwgar a hamddenol â'r ail nac ychwaith mor rhesymegol ei gyflwyniad.

Diflannodd y plant i'r gwyll ac wedi i sŵn eu traed yn printio'r eira ddistewi, daeth Henri o'r cysgodion yn hamddenol, ei wn sten yn ei law.

Pan fyddai'n gweithio wrth y dydd fe gymerai amser i weithio'n hamddenol, ac araf iawn fyddai tyfiant y wal neu'r caban.

Wrth Iwc, roedd o'n mynd yn bur hamddenol, ond roedd hi'n waith anodd dal i fyny ag o yr un fath.

Ond pan fydd pobl mewn swyddi mwy hamddenol yn cadw noswyl, bryd hynny y mae trefnwyr y rhaglenni newyddion yn gweithio galetaf.

Ran fynychaf, munudau hamddenol hyd yn oed yw'r rhai a dreulir o flaen y camerau o'u cymharu â berw'r ystafell newyddion ychydig funudau cyn amser darlledu.

Stwmpiodd ei smôc rhwng ei bympsan a'r concrit a cherddodd yn hamddenol at y cwt y diflannodd Ifor i mewn iddo.

Ond methwyd cyflawnu hyd yn oed hynny wrth i Sri Lanka hwylio'n hamddenol i fuddugoliaeth o ddeg wiced.

o fudd mawr i'r dyfodol: ...fel y daw'r staff yn fwy hyddysg yn y CC..., fel y newidia aelodau'r adran...edrych ymlaen i gyhoeddi'r deunydd terfynol...o'i ddarllen yn hamddenol pan gai gyfle yn y gwaith.