Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamddifadu

hamddifadu

Wedi i'r Alban faeddu Lloegr dros y Sul a'u hamddifadu o'r gamp lawn, tybiais mai'r peth Cristnogol i'w wneud fyddai peidio ffonio a gadael i'r briw rygbi iachau'n raddol.

Pe collid yr ysgolion hyn, a'r plant yn cael eu symud i ysgolion mewn pentrefi eraill yn ôl cyfleustra gweinyddwyr a chyfrifwyr, byddai'r plant yn cael eu hamddifadu o rai o gonglfeini'n haddysg gynradd - sef y sicrwydd o berthyn a chael eu hadnabod a'r gallu i gydweithio.

O ganlyniad i haelioni pobl Cymru, dosbarthwyd papur, pensiliau a llyfrau i naw ysgol oedd wedi eu hamddifadu bron yn llwyr o ddeunydd addysgol.

Tystiodd pawb ein bod wedi cael gwibdaith ardderchog er i'r niwl ein hamddifadu o olygfeydd hyfryd gwlad Llŷn.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).