Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamgylchedd

hamgylchedd

Mae Antur Waunfawr wedi sefydlu eu hunain fel cwmni arloesol sydd nid yn unig yn hyfforddi ac intigreiddio pobl gyda anhawsterau dysgu, ond hefyd yn chwarae rhan allweddol i ysgogi y gymuned leol i adfywio'r gymuned ac adfer eu hamgylchedd yn unol â gofynion Agenda 21.

Lleihau y mae gallu dynion i lunio eu hamgylchedd teuluol a lleol, heb sôn am yr amgylchedd cenedlaethol.

Pan ddarganfuwyd gweddillion y Santa Maria de la Rosa (is-longfaner sgwadron Guipuzcoan yr Armada) prin y gellid ei chanfod ar wely'r môr gan mor llwyr yr ymdoddai i'w hamgylchedd.

Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Y mae tapiau sain yn ychwanegu dimensiwn pwysig arall trwy ein galluogi i glywed y bobl eu hunain yn disgrifio eu hamgylchedd a'u problemau.