Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hamser

hamser

Yr oedd Lady Megan y rhan fwyaf o'i hamser yn Llundain ac aelodau'r pwyllgor ar chwâl drwy Gymru gyfan.

Bydd y gêm yn dechre am bump o'r gloch ein hamser ni.

Os y cam olaf, a ddewisid, yr oedd yn bwysig fod aelodau'r grwp yn sylweddoli maint gwaith, sef y byddai'n llyncu rhan helaeth o'u hamser am flwyddyn neu ddwy.

Ei hamser oedd 49.

Fe fyddwn i'n dadlau fod Eirin Peryglus yn gweddu i ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au, tra bo Llwybr Llaethog o flaen eu hamser.

Ni welwyd y fath undod cenedlaethol yn ein hamser ni.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Mi fydd yn rhaid i rywun gynhyrfu'r hogia', yr hogia' fydd heb ddim i'w wneud!" "Aros ein hamser fydd raid i ni," ychwanegodd Elystan yn bwyllog, "ac wedi i'r hin gynhesu peth, mi af i â thi i lawr i'r Clas belled â'r Betws, Gwgon.

Oherwydd ein bod yn canolbwyntio ar waith ynglyn a gwasanaethau cymdeithasol personol prin yw'n hamser i hybu'r nod yma.

Mae'r ardal o gwmpas Cape Town yn un sy'n cynhyrchu gwin, a threuliais ran o'm hamser hamdden i farchogaeth trwy'r gwinllannau, a phellach ymlaen lle roedd melonau a phomgranadau yn laweroedd.

A dyna ni - ar awr mor dyngedfennol yn hanes y rhyfel - yn gwastraffu ein hamser yn of er yn y lle hwn.

Mae'r rheiny sy'n bedwerydd ac yn bumed ar y rhestr yn y bon yn gwastraffu eu hamser.

Gwaith yn cadw dyn yn gynnes ydi gwaith fel yna, gwaith a lenwodd gyfran o'm hamser, a hynny i bwrpas.

Mae rhywbeth yn wyrdroedig yn y peth: nid perfert fel yr hen ddyn budr, ond merch gall yn ei hoed a'i hamser yn prynu papur 'Dolig ym mis Medi neu'n waeth byth, yn rhuthro am sêls ddechrau ionawr i brynu anrhegion at y 'Dolig nesa'.

Felly nid yw'n syndod o gwbl bod prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â safonau academaidd yn gyndyn o roi o'u hamser a'u harian i archaeoleg môr neu i gael eu cysylltu â hi.

Iddo ef, llefydd i'w gadael ar drugaredd natur ydynt, i ddirywio yn eu hamser eu hunain; ac mae'n arwyddocaol mai Dorothea ddadfeiliedig oedd yr ysbrydoliaeth fawr am flynyddoedd, yn hytrach na'r chwareli a drowyd yn atyniadau twristaidd ym Mlaenau Ffestiniog.

Hwyrach mai gwastraffu'n hamser ydan ni.'

Roedd eu hamser yn prinhau.

Ond, ers dod i Gymru i fyw, bymtheng mlynedd yn ôl, fe roddodd fwy o'i hamser i ymgyrchu'n wleidyddol.

Yna am dri o'r gloch - y Brenin Sior V yn cyfarch ei ddeiliaid, ac Ifan a'i dad a'i fam, ei fodryb Lydia a minnau yn gwrando'n ddistaw fel llygod.Drwy ein plentyndod hapus treuliodd Ifan, Eric a minnau y rhan fwyaf o'n hamser yn chwarae, un ai ar lan y mor neu ar lan afon Soch.

Ers i mi fynd ar y Senedd gyntaf fel golygydd y Tafod roedd hi'n ymddangos i mi fod pob Cadeirydd yn mesur ei hamser neu ei amser yn y gadair yn ôl faint o erthyglau cadeiryddol oedd ar ôl i'w sgwennu i'r Tafod.

Ar ôl hanner can mlynedd, diolch am y bobl ieuainc sydd eto yn gweithio ac yn rhoi o'u hamser i hyrwyddo'r mudiad.

Y mae'n eglur na allent roi eu hamser fel y dylid i ganfasio a lecsiyna, a lleddfent eu cyd wybod drwy ymroi i ofyn y cwestiynau hyn mewn ffurf fanwl iawn, ac o leiaf i ystyried atebion.

Rhoddwyd yn hael a diflino o'u harbenigedd a'u hamser gan bawb.

Hyd yn oed yn nyddiau cynnar radio a theledu Cymraeg, gweinidogion yn gwneud gwaith gohebu yn eu hamser sbâr oedd J.