Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hanadl

hanadl

"Yn Llangolwyn yma!" meddai, yn wen o glust i glust, ac yn fyr ei hanadl.

Ninnau'n dal ein hanadl wrth ei dilyn drwy'r drysni a'i gwylio'n gwyro dros y dibyn, ac yn cyd-lawenhau yng ngwir ystyr y gair wrth iddi godi'r ddafad ar ei hysgwyddau.

Roedd nifer o'i noddwyr yn aros amdani ar waelod y twr gyda'u hanadl yn eu dwrn ond mi gyrhaeddodd y curad dewr yn ddiogel ar y llawr wedi codi swm sylweddol o arian.

Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!

Iddi'n ffin bu Gorffennaf - i dyner Dynnu'i hanadl olaf: Megan, merch y gan, a gaf Ar daith i'r mor diwethaf.

Daliai Meg ei hanadl mewn rhyfeddod at yr olygfa.

Ebychodd dan ei hanadl.

Gallai Rhys deimlo ei hanadl yn boeth ar ei glust a throdd ei ben tuag ati.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

Edrychodd arni'n cysgu, ei bochau'n pantio a'i cheg yn sugno am ei hanadl.

Daliodd ei hanadl.

"Roedd Gwladys a Meinir eisoes, yn ôl y drefn, wedi rhoi eu dwylo wrth eu cegau crynion, ac wedi dal eu hanadl a sgrechian, ac erfyn am gael peidio â chlywed y manylion gwaethaf.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

Rwyn credu bod pawb yn Ne Affrica yn dal eu hanadl tan hanner dydd, meddai Tony Davies, syn Ymgynghorydd Busnes yno.

Tanlinellwyd y pwynt, ond mewn modd cymeradwyol, gan Ifor Williams yn ei 'Ragair': Os eich amcan yn prynu'r gyfrol hon oedd cael stori anturiaethus, 'o gyfnod y rhyfel degwm', a chwithau i ddal eich hanadl wrth ruthro drwy ei digwyddiadau cyffrous, ha wŷr, ewch yn ol i ffeirio Gŵr Pen y Bryn am gyfieithiad o chwedl Saesneg.

Ymladdodd Vera am ei hanadl, ei dynnu mewn yn ddwfn a'i lyncu'n awchus er mwyn ei chadw'i hun rhag llewygu.