Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hanai

hanai

Credai'n ffyddiog y byddai'r Tywysog Albert yn ymroi i ddysgu 'iaith Gomer', fel y gweddai i'r sawl a hanai o dras Llywelyn Fawr.

Hanai fy nau dad-cu o sir Gar Thomas Griffiths o Lannon, Llanelli a Thomas Bowen o'r Pwll, Penbre yn agos i Lanelli, a'm mam-gu o du fy nhad, Dinah Davies o'r Bwlchnewydd, Llannewydd, yn ymyl Caerfyrddin.

Hanai o deulu o ddiwygwyr.

Hanai ei dad o'r Cwm, Sir y Fflint, a'i fam o Lanfair Dyffryn Clwyd.

Aeth ymadroddi tebyg i ac yn y blaen, yn ddwfn i'r ymwybyddiaeth, a bu rhaid i mi eu carthu allan trwy gynorth Ratz a'r athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd, Aberaeron sef WE Jones a hanai o Went ac a oedd, fel minnau, wedi gorfod yn ei dro ymlafnio i'w waredu ei hun rhag y math ymadroddi a ystyriem yn llediaith.

Ein gwrthrych yw Pamela Morgan, un o blant Bedyddwraig dduwiol a hanai o deulu Hugh Evans, Ffair-rhos, gwraig a ddysgai y Beibl yn gyson i'w phlant.