Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haniaethol

haniaethol

Y gwir yw mai disgrifiad noeth ydynt, haniaethol iawn eu gosodiadau hefyd: nid oes un llun diriaethol ar eu cyfyl bron.

Cyfuniad yw o elfennau diriaethol a haniaethol ac y mae'n gyfrwng i fynegi ymwybyddiaeth gymhleth.

Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.

Yn yr ail gyfnod hwn yr oedd rhaid mynegi'r egwyddorion haniaethol hyn yn bolisi economaidd y Blaid.

Gosodai'r academegwyr y gwirioneddau yr oeddynt yn dadlau amdanynt y tu allan i brofiad y galon, ym maes syniadau haniaethol, gan brofi i Hughes eu bod ar gyfeiliorn.

Mewn ysgrif nodedig a gyfieithwyd yn Planet, dywedodd y byddai gormeswyr Sbaenaidd y Basgiaid yn llwyddo, pe dinistrient yr iaith Fasgaidd, i wneud y Basgiad "yn ddyn haniaethol".

Trafodir dynion fwyfwy fel rhithiau ystadegol, hynny yw, yn fodau haniaethol, gan fiwrocratiaid pell, a chaiff eu cymdeithas, yn lleol a chenedlaethol, ei sarnu'n filain.

Disgrifiad ydynt o darddle'r 'tân pob awen a gano', hynny ydyw, o ysbrydoliaeth, a'u natur haniaethol bellach yn rhinwedd ac nid yn fai.

Nid ofnau alegorie pobl haniaethol e.e.

Pan ddisgrifir Duw nid yw'r ansoddair yn cyfleu unrhyw fath o synwyrusrwydd; rhai 'haniaethol' sy'n consurio mawredd ydynt yn ddi-feth.

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

Eto ni allai ymesgusodi rhag y cyhuddiad ei fod yn cyflwyno pwyslais newydd, gan ddilyn Talsarn a Williams o'r Wern i fynnu nid yn unig ddigonolrwydd haniaethol yr Iawn ond hefyd lydanrwydd y porth a gallu pob pechadur i droi at yr Iachawdwr.

Cristion, sydd yn ei ddramau ond ymdrech i greu sefyllfa haniaethol sydd yn caniatau i fygythiadau ac ofergoeledd a chymysgwch meddwl y byd real chwarae'n rhydd yn y dychymyg.

Pryddest undonog a haniaethol yn y mesur moel.

Os edrychir yn haniaethol ar 'bethau byw', gwelir bod eu cymeriadaeth yn dibynnu ar faint o ryddid sydd gan unrhyw organeb i ddewis a dethol rhwng posibiliadau gwahanol.