Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hap

hap

Wrth ystyried mai rhestr o 'unigolion' hollol ar hap oedd i gychwyn, ac mai'r unig dasg gyfrifo angenrheidiol oedd mesur y pellter rhwng gwahanol bentrefi, mae'r algorithm genetig wedi medru esblygu, ac yn ei sgil, hunan-ddysgu y daith orau heb unrhyw ymyriad o gwbl.

"Galw gyda fi% meddai, "i adrodd i hap a'i anhap." Ac yna - "Mae'n bwysig i mi newid yn gynnar yn y bore rhag cael fy nala yn fy nisabil." Gair hollol gyffredin yn nhafodiaith gogledd Sir Benfro oedd disabil pan oeddwn yn ifanc.

Wrth i gymeriadau pellennig bennu ar hap beth fydd eu hanes, cipiant awennau eu dyfodol i'w dwylo eu hunain a sicrhau rheolaeth dros eu tynged hwy eu hunain.

Cefais yr argraff o'r hyn a wyddwn fod cymaint o hap a siawns yn perthyn i hanes y teulu nes rhyfeddu fy mod ar dir y byw o gwbl a'm bod yr hyn oeddwn.Roedd fy chwilfrydedd yn fawr.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

v) cynnal arolygon rheolaidd ar hap o gyfarpar, dillad gwarchod, mannau gwaith (dan do a thu allan), a staff i wneud yn siwr bod ysbryd y Polisi hwn yn cael ei gynnal;

Gyda'r cynnydd mewn nofio tanddwr fel adloniant ym Mhrydain darganfuwyd llawer o drysorau ar hap ac mae mwy o hyn yn debyg o ddigwydd.

Meddyliodd yn ddifrifol ynghylch gwahardd pob math ar hap-chwarae.

Nid drwy hap a damwain y daw dwyieithrwydd gweithredol yn realiti yn y Cynulliad.

'Wyt ti am ddwad i chwarae'r peiriannau hap ar ôl cinio?'

Nid hap a damwain yw'r ffaith i gwmni Eingl-Gymreig o Aberystwyth gyrraedd prawf terfynol yr žyl Brydeinig un act am y tair blynedd diwethaf ac ennill ddwywaith yn olynol.

Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.