Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harbwr

harbwr

Felly, dyma droi am yr harbwr yn bedwar digon hapus.

Fe fu'r ddau hyn felly yn dadlau ynglŷn â darn o dir gerllaw'r harbwr a'r ddau yn dweud Fy eiddo i yw hwn.' Arweiniodd hyn at achos llys costus dros ben a'r Iarll a gafodd y dyfarniad, fel y gellid rhag-weld.

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

Wrth i John Griffith gerdded ar hyd yr harbwr yn Efrog Newydd, fe fyddai wedi gweld rhai o'r bobl dduon a oedd newydd gael eu rhyddid rhag caethwasiaeth ac fe fyddai wedi clywed peth o'r siarad am y symudiadau cyfreithiol i roi hawliau iddyn nhw.

Mae'r Adran Dechnegol yn cadw llygaid ar safleoedd megis harbwr Pwllheli.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Nid yw'r tŷ yn bell o'r harbwr ac o'm stafell fechan gallaf weld y llongau bychain yn hwylio'n ôl ac ymlaen i Gymru.

Wrth gwrs cynyddu wnaeth y fasnach yn yr harbwr fel y daeth pobl i wybod amdano.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Allan ar y môr yr oedd ei le yntau, nid yn tindroi'n ei unfan yn yr hen harbwr, yn rhwydo pysgod ddydd ar ôl dydd, yn eu glanhau a'u gwerthu heb fawr o dâl am ei drafferth na fawr o seibiant o fore gwyn tan nos.

Cafodd yr harbwr lleol ei gyfnod prysuraf erioed.

Pan gyrhaeddwyd harbwr Glan Morfa roedd sioc arall yn aros yr hogia.

Ond fe wyddai Morwen, mai'r môr oedd piau ei thaid er gwaethaf holl ymdrechion ei wraig i'w hudo i'r harbwr.

Beth oedd yna i'w ddathlu'n yr harbwr.

Rhaid fyddai brysio neu fydden nhw byth yn medru cael digon o ddwr i fynd i mewn i'r harbwr yng Nglan Morfa.

Yna, symudodd fel cysgod yn ôl tua'r ffenestr a syllu ar yr harbwr oddi tani.

Yn ôl y sôn, yr oedd John Edmunds â'i fryd ar ddod â thipyn o fywyd i Borth Iestyn ac am, ddechrau gwneud hynny trwy ddathlu hanner can mlwydd o ryw lun o hunan-lywodraeth ym mywyd yr harbwr.

Nid oedd waeth ganddi hi beth a ddigwyddai yn yr harbwr.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Ar y noson honno y troes llong Townsend Thoresen, Herald of Free Enterprise, drosodd tu allan i harbwr Zeebrugge ar ddechrau ei thaith yn ôl i Dover.

Bu hwn yn cyd-weithio â Bowser i sefydlu harbwr i allforio'r glo a ddeuai o Gwm Capel a'r mannau eraill.

Fe fu'r ddau hyn felly yn dadlau ynglŷn â darn o dir gerllaw'r harbwr a'r ddau yn dweud "Fy eiddo i yw hwn." Arweiniodd hyn at achos llys costus dros ben a'r Iarll a gafodd y dyfarniad, fel y gellid rhag-weld.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

Wrth iddo gyrraedd yn ôl i'r harbwr gwelodd Jabas fod y cwch cyflym yn dal wrth angorion y Wave of Life, ond suddodd calon Jabas wrth weld ei dad a dau o'i bartneriaid yfed yn rhefru ar ben wal y cei.

Nid oedd bywyd hyd yn oed yn yr harbwr heno, dim ond hen lwydni tesog yn erlid pob argoelo lesni ac yn corlannu cysgodion o ddu%wch ar y gorwel., Gobeithio'r annwyl nad darogan ystorm a wnaent.

Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.

Y tu allan i dŷ gwyn cymharol ddi-nod yr olwg ar fin yr harbwr roedd ugeiniau ohonom ni'n aros am fymrym o oleuni.

Wrth iddi adael yr harbwr llifodd y dŵr i mewn i'r llong drwy'r drysau agored.

Yr oedd o wedi anghofio mai gadael yr harbwr a wnaethai yntau.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.