Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harddu

harddu

Gwyrddlesni'r dail yn troi yn felyn ac yn frown, a'r coed a'r rhedyn yn harddu a goleuo'r llethrau.

Roedd yr offeiriad gwlatgar, Daniel Ddu o Geredigion, wrth ei fodd o ddeall y byddai 'studio a harddu ein hiaith' yng Ngholeg Dewi Sant.

"Mae hi'n harddu unrhyw eiriau rwy'n rhoi at ei gilydd," meddai John Owen - a'r geiriau hynny'n aml wedi ymwneud ag atgoffa pobol ifanc y Cymoedd am eu gorffennol a'u gwlad.

Wedi cynnig ei wasanaeth, a thra'n disgwyl am long, prysurodd ymlaen â'r gwaith enfawr o aildrefnu perllannau a gerddi yr hen Blas ac ailhau y lawntiau a'r porfeydd, yn ogystal â phlannu rhai miloedd o goed i gysgodi a harddu'r lle.

Ei anfon i beintio drysau a llidiardau i atal rhwd ac i harddu'r ffarm.