Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

harian

harian

Un feirniadaeth oedd bod yr adroddiadau am fwyd yn cael ei ddwyn yn annog pobl i beidio â chyfrannu'u harian ac felly'n llesteirio gwaith y mudiadau dyngarol.

A ydyw'n talu i'r perchnogion roi eu harian yn y fenter yn hytrach na'i osod, dyweder, yn stoc y Llywodraeth?

Mae'n siŵr mai'r gwaethaf iddi hi - gwaeth hyd yn oed na cholli ei harian - oedd y gwaradwydd fod pawb yn gwybod iddi gael ei gwneud.

Cymerodd eu harian heb ddweud diolch, a heb godi ei ben o'i bapur hyd yn oed.

Efallai y gallwn ni ffeindio mas os byddai ein harian ni'n dod mewn yn handi gyda nhw yn rhywle.Sendina yn dysgu Bosnieg i mi ROEDD yr wythnos gyntaf yn amser i ni weld y gwersylloedd a chwrdd â phawb oedd angen gwrdd.

Y cwbl a wyddai pobl y dref oedd bod nifer o'u plith wedi buddsoddi eu harian yn y Copper Trust yma, rhai ohonynt, megis Jenkins London House, wedi buddsoddi miloedd.

Wyddai Bigw ddim beth i'w wneud â'i harian, felly doedd waeth iddi ei roi i'r plant ddim.

Roedd hon yn record o sgôr i Gymru yng Nghwpan y Byd, dechrau perffaith a'r 5,000 ddioddefodd yr elfennau yn cael gwerth eu harian.

Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.

`Rydyn ni'n gyfoethog!' `Beth wnawn ni ag ef?' `Hanner munud ...' `Beth?' `Nid ein harian ni yw e.' `Ond ni ddaeth o hyd iddo.' `Y cyfan y mae hynny'n ei olygu yw bod rhywun wedi ei golli e.

Felly nid yw'n syndod o gwbl bod prifysgolion a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â safonau academaidd yn gyndyn o roi o'u hamser a'u harian i archaeoleg môr neu i gael eu cysylltu â hi.

Mae yna rai sy'n ennill pob raffl ac yn gweiddi 'House' o flaen pawb arall, ac mae yna eraill sy'n talu'u harian ac yn ennill dim.

Datguddiodd y Major ei farn yn wyneb haul yn ystod ei ddarlith heddiw pan haerodd nad oedd dim diddordeb gan yr Eidalwyr ynom ac eithrio yn ein harian.

Gwadu hynny a wnaeth hi gan ychwanegu y byddai'n derbyn ei harian dipyn yn haws o hynny ymlaen - roedd yn mynd i fod yn butain broffesiynol.

Fe awgrymodd - - fod y broses o drafod a chytuno ffioedd fel hyn yn iachus ac yn golygu fod y Sianel yn sicrhau gwerth eu harian.

Costiodd ailwneud y gegin dros dri chan punt o'n harian prin, ac i mi, y peth gwaetha oedd y teimlad 'mod i wedi gadael Myrddin i lawr, drwy fod mor esgeulus.

A sut mae diogelu cleifion rhag drwg fwriadau perthasau sydd eisiau gweld eu diwedd, er mwyn meddiannu eu harian a'u heiddo?