Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

haros

haros

Felly, mae yna frwydr ddiddorol iawn yn ein haros.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Yn ein haros heno mae Gaelle Mechaly o Ffrainc, Panajotis Iconomou o Wlad Groeg, Ekaterina Semenchuk o Rwsia, Markus Bruck o'r Almaen a Natalie Christie o Awstralia.

Cofiai sefyll ar y sylfaen, ugain mlynedd yn ôl, cyn i'r muriau gael eu codi, a cheisio meddwl be oedd yn eu haros yn y tū newydd hardd.

Arwyddocâd hyn yw fod gwaith mawr yn ein haros i dorri trwy'r rhwystrau meddyliol a chymdeithasol sy'n atal Cristionogion yn gyffredinol rhag mabwysiadu safbwynt sydd mor amlwg gyson â dysgeidiaeth Iesu Grist.

Ond mae'r tŷ nefol sy'n ein haros yn cael ei bortreadu'n adeilad cadarn, cryf, rhyfeddol o drigfan gan nad dyn sydd wedi'i godi, ond Duw.

Does dim bridio yn y Gaeaf, a phan ddaw'r Gwanwyn, maent yn dychwelyd i'r wledd fydd yn eu haros yn y rhannau fydd wedi bod dan eira a rhew am chwe mis.

Troisom wedyn am Aberdaron ac yn ol i Nant Gwrtheyrn, lle'r oedd pryd blasus yn ein haros.

Ni wyddom ni beth sy'n ein haros ym mhlygion y flwyddyn hon.