Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hau

hau

Gellir parhau i hau hadau llysiau a gwneud hyn dros gyfnod o amser er mwyn cael cnydau dilynol.

A chynigiodd yr un gwr ddau swUt i minnau os awn, dywedais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Pawr oddi amgylch yr HaU yng nghanol y dref yn noethlyrnun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweld, nes yr aeth yn sal.

Ni welent ychwaith obaith y gwþr a'r gwragedd am y dyfodol, eu gofal dros eu plant, na'u paratoi wrth hau a medi.

Nid oes dim o'i le mewn hau chwarter rhes o bys ac yna'r ail chwarter, y trydydd chwarter a'r chwarter olaf, gydag ysbeidiau rhwng bob heuad, os yw'r rhes yn hir.

Nid na wnaent yr un fath o waith yn hollol : byddai'r ddau yn aredig a hau a medi ; ond yr oedd gwahaniaeth ysbrydol hanfodol rhynghddynt.

Y mae rhai, medd Sion Dafydd Rhys, 'a fynnynt doddi a difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a dodi iaith y Saeson yn ei lle hi: yr hynn beth yssydd ymhossibl ei gwbl-hau a'i berpheithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry, a'i gwneuthur yn Seisnic'.

Gwell oedd ganddo gydio mewn llyfr nag yng nghorn yr aradr; trin, diwyllio meddwl na thrin daear, a hau gwybodaeth na hau ceirch a gwenith.

Yn ddiweddar clywais un oedd yn newydd i mi gan ffermwr o Ben Llyn pan soniai am yr amser priodol i ddechrau trin y tir yn barod i hau ar ol aredig.

Yng Nghymru, ni ddylid hau'r hadau os nad yw'r tywydd yn braf.

Cyrhaeddodd y gog eisoes a gelwir haidd wedi ei hau'n ddiweddar, ac felly'n gildio'n wael, yn haid y gog.

Gan bod wyth wythnos wedi mynd ers pan y gall y mwyafrif hau fe olyga hyn bod hanner tunnell yn llai i ddod i mewn yn y cynhaeaf.

Mae potensial haidd yn nhermau cynnyrch yn lleihau o gant i gant a chwarter yr erw am bob wythbos o oedi yn yr hau ar ol dechrau Mawrth.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

"Taflwyd hotel wag at yr Arlywydd Nixon," meddai darllenydd un tro, gan hau'r amheuaeth yn syth ei fod yn taro'r botel ei hun !

Arno ef hefyd y mae'r bai am hau hedyn fy obsesiwn gyda bylchau.

Pan fyddai'r sach yn sych yr oedd yn amser dechrau trin y pridd yn barod i hau.

Ond dyma dystiolaeth drawiadol sy'n dangos sut y buwyd ym more oes yn hau hadau'r serch a goleddodd Davies trwy weddill ei fywyd tuag at iaith, llenyddiaeth a chrefydd Cymru.

Gellir fforchio, cribinio a chroesgribinio er briwsioni'r tir ar gyfer hau hadau lawnt.

Eto ryw flwyddyn fe ddaeth yn Jwda had i'w hau.

Efallai, fel tlodion Jwda, y byddwn yn aredig, ond heb had i'w hau.

A gwaith yr arddwr yw paratoi ar gyfer yr hau sydd i ddod.

Allan yn y caeau byddai'n codi cerrig, chwynnu, hau hadau a chasglu'r cynhaeaf.

Gellir hau hadau'r planhigion dwyflwydd megis blodau'r fagwyr, a chlychau Caer-gaint ac ati.

Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.

Mi fyddai'r dynion bach od yn gweithio'n galed, yn palu, yn torri'r gwrych, yn hau ac yn chwynnu.

Ond pan fo'r ddraenen wen yn wych hau dy had boed sych neu wlyb." Mewn geiriau eraill mae'n iawn i beidio rhuthro i hau nes bo'r ddraenen wen yn ei blodau ond mae hynny ymhell i ffwrdd eleni.

Yn wir awgrymir mai'r adeg orau i hau hadau lawnt yw o ddiwedd Awst i ddechrau Medi.

Cwyd hyn o'r hen ddywediad: "Pan fo'r ddraenen ddu yn wych, hau dy had os bydd yn sych.