Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

havana

havana

Yng nghyffiniau'r dociau yn Havana y mae'r Vedado, hen ardal y ddinas, a'r math o le y byddai'n well gan ddinasoedd eraill ei guddio.

Yn Ciwba, fe fuon ni'n ffodus i gael Rafael, pennaeth gwarchodwyr Havana.

Havana, wedi'r cyfan, oedd maes chwarae'r Mafia yn y pedwardegau a'r pumdegau.

Mae Canolfan Geneteg a Biotechnegol Havana yn allforio meddygaeth o safon uchel, gan gynnwys brechiadau ar gyfer llid yr ymennydd a Hepatitis B.

[LLUN + CAPTION: Dinasyddion Havana'n gweithio yn y wlad]

Roeddwn i wedi mynd yn ôl i Ciwba, ond y tro hwn i wneud rhaglen am deulu Cymraeg Meic a Leila Haines a oedd yn byw a gweithio yn Havana; roedd adroddiad wedi'i wneud o Latvia trwy fynd â Latfiad alltud yn ôl yno ac roedd adroddiad ar ryw yn Thailand wedi'i wneud trwy ddilyn gweithwraig Gymraeg o'r elusen Oxfam.

Mewn coleg yn Havana, gwelais fyfyrwyr yn glanhau'r adeilad ac yn golchi llestri.

Clywsom fod un ystordy yn Havana yn llawn o antifreeze ac erydr eira o'r Undeb Sofietaidd!

Mewn pentref pysgota o'r enw Cojimar, ger Havana, roedd yna eisoes un o'r tai bwyta pysgod gorau a welais yn y byd.

Cafodd y bobl a symudwyd o'r hen ddinas eu hail-gartrefu mewn fflatiau ar gyrion Havana.

'Maen nhw'n dwlu ar blant - gan gynnwys plant o wledydd eraill.' Yn Havana y mae'r Ciudad de los Pioneros, gwersyll haf sydd â llety i ddeng mil o blant.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.

Ychydig iawn o lwyddiant economaidd a gafodd; roedd hynny'n gwbl amlwg wrth i mi weld dinas Havana am y tro cyntaf.

Yn ardal Little Havana, Miami, dywedodd alltudion eraill wrthyf eu bod wedi rhoi eu tai ar werth, fel y cam cyntaf cyn dychwelyd adref.