Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heddychlon

heddychlon

teilyngodd y teitl hwn am iddo weithio mor ddiflino o blaid heddwch a cheisio dwyn gwledydd y byd i gyd-fyw yn heddychlon â'i gilydd.

Polisi heddychlon a fabwysiadwyd yn swyddogol gan Blaid Cymru yn y Rhyfel.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Mae'n ymddangos y byddan nhw'n cefnogi'r Prif Weinidog, ond yn argymell maddau i arweinydd y coup" os bydd yr helynt yn dod i ben yn heddychlon.

Mae'n hen bryd i Garmon a Bleiddian ddychwelyd i'n plith a'n harwain i fuddugoliaeth ddeublyg heddychlon - ar yr hunan-serch sy'n dryllio'n ffydd ac yn erbyn estroniaid sy'n peryglu'n hetifeddiaeth.

Sut yn byd y gallai'r diwydiant rheilffordd fod yn ynys heddychlon yn y môr cynhyrfus hwn?

Mae gennym syniadau heddychlon i'w lledaenu ar draws y byd.'

Anghenraid cyntaf y gymdeithas genedlaethol Gymreig yw gwladwriaeth; ni ellir ei chreu'n heddychlon heb weithredu gwleidyddol cwbl benderfynol.

Pan apeliodd trefnydd Undeb y Docwyr, sef William Pugh, am wrthdystiad heddychlon, daeth y taflu cerrig i ben.

Mae llwyddiant y dulliau heddychlon yr wyf i yn eu harddel yn dibynnu ar ba benderfyniad y daw ein gormeswr iddo, pa arwyddion y bydd yn ei drosglwyddo i'r cyhoedd tu allan.

Cychwyn y cylchgrawn heddychlon Y Deyrnas (a barhaodd hyd 1919).

Teimlwn y dylid cael cadoediad yn awr, cyn i'r rhyfel ar y tir ddechrau, er mwyn trafod a cheisio cael ateb heddychlon yn fuan.

Dyma un o'r bobl brin hynny sydd â naws heddychlon yn ei chwmpasu ble bynnag yr aiff.

Cymru Ymneilltuol yw'r pwnc ac eto y mae islais o genedlaetholdeb gwrthSeisnig trwy'r ddrama: Saeson, er enghraifft, sydd yn rheoli popeth yng Nghymru ac ar waethaf hynny, pobl heddychlon yw'r Cymry (t.

Er bod carfanau yng Nghymru yn erbyn y Rhyfel, fel yr anghydffurfwyr a oedd yn ymfalchïo yn nhraddodiad heddychlon Henry Richard, a ddywedodd fod 'pob rhyfel yn groes i ysbryd Crist', ffafriol at ei gilydd oedd yr alwad am wirfoddolwyr.

Rwy'n ddieuog o'r cyhuddiadau ffug sydd yn fy erbyn, a galwaf yn daer ar i lwyth yr Ogoni, holl bobloedd glannau'r Niger, a'r holl leiafrifoedd a ormesir heddiw yn Nigeria i sefyll ac ymladd yn eofn ac yn heddychlon dros eu hawliau.