Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hedfan

hedfan

Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.

"Y gamp fwyaf ydi hedfan yn isel, nid yn uchel," meddai peilot arall tra'n bwyta brecwast un diwrnod.

Mae Lowri a'i gŵr Geoff yn byw yno ers rhai blynyddoedd bellach, ac nid yw Mrs Evans yn meddwl dim o hedfan dros For yr Iwerydd i'w gweld o leiaf unwaith y flwyddyn, tra y byddant hwythau yn dod draw yma bob yn ail.

Hedfan o fwrllwch Rhagfyr at lesni'r awyr a gwres yr haul.

'Roedd yr awyren yn hedfan yn esmwyth mewn awyr glir.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

Caiff y merched hyn eu hyfforddi i wneud bron bopeth y mae dynion yn ei wneud yn y fyddin, gan gynnwys trafod kalashnikovs, hedfan awyrennau a thanio taflegrau.

Bydd Rhidian Lewis yn hedfan i Brasil ym mis Tachwedd ac mae ein dymuniadau gorau a'n gweddi%au yn mynd yn gwmni iddo.

Nawr fe wyddwn i, Yorath a rhai o'r chwaraewyr eraill fod Mickey yn casa/ u hedfan ac roedd 'na daith hir iawn o'n blaene ni.

Bu Douglas yn hedfan mewn un uwchben llongau i edrych ar eu hôl.

Y 'Comet', yr awyren jet gyntaf i deithwyr, yn hedfan.

Gan ei bod yn ddiwrnod braf, mynd am dro efo'r myfyrwyr i ben y bryn gyferbyn a'r coleg i hedfan barcud.

Yr RAF yn hedfan â bwyd drwy goridor Berlin i drechu gwarchae'r Rwsiaid.

Bydd tair awr ar ddeg ar awyren Cathay Pacific wrth hedfan o Heathrow wedi rhoi cyfle i sylwi ar y penawdau yn y South China Morning Post.

"Mi weles i e'n mynd drwy'r clos pan o'wn i'n dod allan o'r tylcie moch, a sgidie tŷ am ei draed e a'i got ar agor yn hedfan

Dychmygwch, er enghraifft, eich bod chi'n gallu hedfan ar garped hud i'r Arctig rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Ebrill.

Mae'r enw Cymraeg yn cofnodi fod gan y tegeirian hwn ddwy ddeilen fawr Iydan ger ei fôn, tra bo'r enw Saesneg, 'Greater Butterfly Orchid' yn tynnu sylw at y modd y gorwedda'r petalau gwynion ar led fel adenydd gloyn ar fin hedfan.

Byddai'n rhaid i ni hedfan i Istanbul, wedyn i Diyarbakir yn ne-ddwyrain y wlad, cyn teithio i'r ffin mewn ceir.

Cytunodd yntau, gan ei fod ar fin gadael i hedfan o amgylch y byd.

Ond ymron ar unwaith gwelsant ddau ffurf yn hedfan tuag atyn nhw, un o'r gogledd ac un o'r gorllewin.

Mae i Edward yn Hedfan yr ymdeimlad o ymdeithgan filwrol.

Mae'n gwarchod llygad y camel rhag gronynnau o dywod sy'n hedfan yn awyr y diffeithwch.

Fe ddaeth y radd i'm rhan trwy gael gwahoddiad i weld seremoni wobrwyo yno, lle mae merched yn cael eu hyfforddi i wneud popeth o drafod kalashnikovs a hedfan awyrennau i danio taflegrau.

Wilbur ac Orville Wright yn llwyddo i hedfan awyren.

Taflodd rhywun siôl sidan un o'r merched tua'r nenfwd, a daeth sgrechiadau o chwerthin oddi wrth y grūp bychan o'u cwmpas yn gwylio'r dilledyn yn hedfan i lawr i'r llawr yn araf.

Codai'r milwyr eu breichiau yn hapus wrth weld awyrennau o Brydain yn hedfan uwch eu pennau yn Dunkirk.

Dyma'r tro cyntaf i ferch hedfan ar draws yr Iwerydd.

Aros heno ym Manceinion gyda ffrindiau, Rob ac Eleri, i gael hedfan i Munich yn gynnar yn y bore.

Hedfan dros y byd, ymweld â gwledydd gwahanol a thynnu lluniau.

Rwy'n gallu hedfan yn iawn," chwarddodd pan oedd yn uchel yn yr awyr.

Treuliais rai diwrnodau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn hedfan i Wlad Iorddonen i dreulio gweddill y rhyfel yn fanno.

Codwyd fy nghorff nes yr oeddwn yn hedfan drwy'r awyr.

A gan fod y tywydd yn fwll, roedd dau neu dri o bryfaid mawr Cumberland yn glanio ac yn hedfan i ffwrdd fel awyrennau yr RAF oddi ar y brechdanau - os medrai neb eu galw nhw'n hyn.

Datblyga'r larfa yn bwpa naill ai yn, ar, neu ger y gwesteiwr ac ar ôl allddod bydd yn cymharu ac yn hedfan i ffwrdd i chwilio am westeiwr addas i gynhurchu'r genhedlaeth nesaf.AR LETHRAU'R WYDDFA - Dewi Tomos

Ar fy unig ymweliad i ag America yr oedd fy ffrindiau yno yn awyddus iawn imi beidio â hedfan i ddinas Efrog Newydd.

Wedyn ar ôl hedfan o Gran Canaria i Madrid a gorfod newid awyrennau ac ar ôl taith naw awr, cyrhaeddodd y chwaraewyr faes awyr Manceinion.

Blwyddyn o anghydfod diwydiannol gyda 200,000 ar streic, a'r Heddlu, hyd yn oed, yn mynd ar streic, a'r faner goch yn hedfan yn Glasgow.

Canlyniad yr adroddiadau hyn gan yr ysbi%wyr yw fod y Llywodraeth yn eu derbyn â chroeso ac yn penderfynu ar gyfundrefn newydd o addysg gan y wladwriaeth, ac mae'r cythreuliaid wrth eu bodd, ac yn hedfan yn ôl i Gymru'n orfoleddus (tt.

Mae Clwb Rygbi 13 St Helens yn mynnu bod yn rhaid i Anthony Sullivan a Keiron Cunningham fynychu diwrnod i gydnabod y cefnogwyr ddydd Sul nesa a hynny ar draul hedfan i Dde Affrica gyda charfan Cymru sy'n paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Rheinos De Affrica.

Hedfan am bump awr mewn cocpit awyren y Groes Goch, yn cario nwyddau allan i geisio lleddfu dioddefaint y Cwrdiaid.

Louis Bleriot yn llwyddo i hedfan awyren ar draws Môr Udd.

Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn, penderfynwyd hedfan rhai cannoedd o filltiroedd i'r gorllewin, i le o'r enw Gambella.

trueni mai gem fel hon oedd hi ac er i chwaraewyr cymru wynebu'r gorllewin pan ganwyd yr anthem genedlaethol ni fydd y tîm yn hedfan tua'r gorllewin i weld wncwl sam yr haf nesaf.

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Bydd llawer o'r bobl sy'n ennill eu bywoliaeth drwy hedfan yn gwisgo swynion i'w cadw'n ddiogel.

Gyda lleuad crwn yn codi yn yr awyr y mae adar i'w gweld yn hedfan i glwydo.

Gresyn na fedrwn i hedfan jet, mi fuaswn yn mynd oddi yma cyn i'r un ohonyn' nhw allu symud.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.

Ymddangosodd crochan gweddol o faint wrth droed fy ngwely, a'r un mor ddisymwth dyma bob math o bethau yn hedfan i mewn iddo!

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Enwau'r traciau sydd ar Yr Eiliad Hon ydi Cân y Coleg, Hedfan Heb Adenydd, Pishyn Del, Y Ferch i Mi, Trist yw fy Stori a Nofio yn Erbyn y Lli.

Cafwyd sesiwn am 7.30 bore ddoe cyn i'r garfan hedfan i Toronto ar gyfer y gêm yn erbyn Ontario.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Yn awr, yn ogystal a'u dyletswyddau paramedig mae'r ddau yn hedfan ar hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru yn rheolaidd.

Y porthladd yn llawn o gychod wedi eu haddurno a baneri ac wrth i'r orymdaith ddirwyn i ben llenwir yr awyr a swn byddarol MIG 16s yn hedfan heibio.

Ond pan oedden ni ar fin hedfan ffwrdd, daeth y capten drwodd i'r cefn a dweud bod nhw'n gwrthod rhoi caniata/ d iddo adael.

Dechreuodd deimlo'n well ar ôl i'w fab Peter hedfan o Ganada i'w weld a'i ferch Judy deithio o Loegr.

Roedd yn ddigon i ail-gychwyn yr holl siarad am Mlke England ond fe ddigwyddodd un peth ar y daith honno wnaeth i mi, a Terry Yorath yn arbennig, synhwyro gwendid mor gynnar â hynny yn ei deyrnasiad Achos y qfan oedd i'r chwaraewyr Mickey Thomas fethu troi i fyny yn y maes awyr I hedfan allan gyda'r tîm.

Wrth symud ymlaen tuag at Gaergybi, mae modd gwylio fideo o adar y môr yn hedfan ac yn nythu o gwmpas clogwyni Ynys Lawd, gyda'r goleudy'n cadw golwg gerllaw.

Y diwrnod olaf cyn hedfan i Awstria am wythnos o wyliau.

Hoffasai hedfan, ond yr oedd hynny'n rhy gostus, ac yr oedd am i'w adnoddau ariannol ganiatau iddo dreulio cymaint o amser ag oedd yn bosibl ym Mharis.

Roedd i'r gyfundrefn Sofietaidd rhyw lun o sadrwydd ac roedd yr hanfodion ar gael i hwyluso hedfan a theithio ledled yr ymerodraeth.

Doedd gen i ddim gobaith koala i ddarganfod gwir ysbryd Awstralia yn Sydney felly mi benderfynon ni hedfan tua 3500 km I Darwin yn y Northern Territory.