Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heini

heini

Gyda'r pwyslais diweddar ar iechyd corff a chadw'n heini drwy chwaraeon daeth yr arferiad o smocio o dan y lach.

Yn ôl y cyngor a roddir i'r merched, dylid - ymarfer yn gyson - bwyta diet cytbwys wedi ei reoli'n ofalus - byw bywydau iach - cael cyrff heini

Pam lai clwb Judo, aerobics, cadw'n heini, clybiau ieuenctid, Sgowtiaid, dosbarthiadau nofio etc yn Gymraeg?

Wedyn, fe wnaethon nhw raglen cadw'n heini personol i bob un ohonom, ar gyfer ymarfer adre.'

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Bu'n gryf a heini nes cyrraedd ei bedwar ugain, ac er gwanio o'r corff, arhosodd yn feddyliwr hyd y diwedd.

Ni allwn weld pwy oedd ynddo, ond wedi iddo aros yn union oddi tanom, neidiodd Lewis Olifer allan yn heini, gan ddal y drws yn agored.

"Dan ni'n cynhurchu papur misol sy'n cynnwys erthyglau, awgrymiadau a chynghorion ynglŷn â bwyta'n iachach, cadw'n heini, gwarchod ein cyrff ac yn y blaen.

Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.

Rydw inne'n cynnal dosbarth cadw'n heini.'

Mi fydda i'n ddeugain ymhen rhai misoedd ac yn cael ychydig ar y naw o ymarfer corff, i'r fath raddau fel fy mod i wedi dechrau cerdded milltir neu ddwy bob nos er mwyn ceisio cadw'n fwy heini.

Nid yw hyn o angenrhaid yn golygu dosbarthiadau cadw'n heini o'r math 'aerobig' egniol, mae'n golygu cyfnodau eithaf hir o weithgaredd lle nad ydych yn cael eich gwthio i'r eithaf e.e., cerdded yn eithaf cyflym, loncian ar gyflymdra cyfforddus, nofio neu seiclo.