Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hela

hela

cyn hynny yn niwl y cynoesoedd ardal lle crwydrai y dyn cyntefig o hendref y glannau o gwmpas Gronant, Mostyn a Llannerch y Môr i'w hafodai byrhoedlog i hela ceirw, sgwarnogod, grugieir - a physgota y nentydd a'r hen hen lynnoedd am y brithyll brown naturiol...

Yn Gwennvenez, mae cwmni o helwyr fu'n hela carw ar y Sul a lled cae neu ddau oddi wrthynt mae maen arall ar ei ben ei hun.

Trwy gymeradwyo hyn y mae hefyd wedi rhoi rhwydd hynt i'r Wasg hela'r llanc ifanc.

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

Yr ysgol ac ati Byddai yr "hunt" yn cyfarfod ar sgwar Pentraeth, ac roeddem yn adnabod y rhan fwyaf o'r "grooms" a'r byddigion hefyd o ran hynny, ond mae y cwn hela fel llawer o bethau eraill wedi peidio a bod Fe anghofiais son am siop Ty Llwyd oedd ar y sgwar, siop Jane Davies oedd i ni pan yn ifanc, pethau da a rhyw fan bethau oedd ganddi ar y pryd hynny, wedyn daeth yn dipyn mwy ddaeth Mrs Evans a'i dau wyr Hugh a Tommy oedd wedi colli ei mam (merch Mrs Evans) yn ifanc.

Y tro yma dechreuodd ganu y gân honno "Hela'r Ysgyfarnog".

Pysgota, hela a marchogaeth oedd pethau Lludd.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.

Does dim rhyfedd ei fod wedi ennill medalau DSO a DFC" "Mae o'n gallu arwain ei sgwadron fel un yn hela llwynog.

Gan mai am ryw ugain llath fwy neu lai y gall y gelyn ddilyn y trywydd cyn troi'n ôl i'r fan lle llamodd hi i'r wâl, hela ar y darn hwnnw'n unig y bydd ef gan fod y naid anferth wedi torri dilyniant y trywydd.

Yn awr ac yn y man byddai ambell faedd yn llwyddo i ddianc o'r fferm, ond cyn bo hir fe'i daliwyd eto - neu fe fyd- dent yn cael eu lladd gan helwyr yn ystod y tymor hela yn y wlad.

Yn ogystal â datblygu'i sgiliau milwrol, fe ymddengys fod Siôn yn ymbaratoi i ddilyn ei dad fel bardd, yn canu i gynulleidfa ac yn derbyn gwobr (fel y byddai'r bardd yn derbyn tâl) am ddynwared llef ci hela ('žo').

Bu'r dynion hyn yn ei hela am ddyddiau gan ei fod wedi bod yn peri tipyn o ben tost i bentrefwyr Rhydlydan, yn torri i mewn i'w hystordai bwyd ac yn bwyta'r cyfan.

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).

Roedd Gwenhwyfar yn synnu at bryder Medrawd, a'i benderfyniad i hela'r carcharorion coll.

Mae'r Dylluan Wen yn mynd i hela." Yna diflannodd i'r gwyll a Jean Marcel yn syllu'n geg agored ar ei ôl.

Fe'i disgyblodd ei hun i neilltuo rhai oriau penodol bob dydd i hela'r ci llwyd; ac os gallai roi ychwaneg na hynny, popeth yn iawn, eithr nid esgeulusai'r un diwrnod cyfan heb ei fod wedi cyflawni'i gwota hunan-drefnedig o erlid.

Torrir ar draws hanes hela'r carw purwyn gan stori twrnameint y llamystaen lle y trechir Edern ap Nudd ac yr enillir Enid.

Byddent hefyd yn hela'r arth a'r blaidd, y baedd gwyllt a'r carw coch yn y coedwigoedd ar yr iseldiroedd.

`Ie, wmbreth,' ebe Ernest, ` 'dydw i ddim yn cofio cael mwy o sbort erioed wrth hela, a phiti garw, Harri, i chi fod mor anlwcus.

Y rhan orau o'r llyfr i mi oedd pan oedd Justin yn meddwl ei fod o'n hela'r arth pan oedd yr arth yn ei hela fo mewn gwirionedd.

Roedd y newyddion hyn yn destun llawe- nydd iawn i naturiaethwyr Sweden oedd yn ymfalchio fod yr anifail yma bellach yn ddiogel y tu fewn i ffiniau eu gwlad - anifial a gafodd ei hela mor ffyrnig gan eu brenhinoedd ac uchelwyr y wlad ganrifoedd lawer yn ol.

Yr oedd yr hen Daid Trefgraig yn arw am hela a saethu.