Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

helaethach

helaethach

Rhydd cwrs o'r fath yr hyder angenrheidiol iddynt ddefnyddio'r Gymraeg yn helaethach.

O ganlyniad i'r Ddeddf, mae statws a phroffil yr iaith wedi cynyddu'n sylweddol a gall y sawl sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn awr ddisgwyl gwasanaethau helaethach nag erioed drwy gyfrwng y Gymraeg gan gyrff sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Nid wyf am geisio ail-ddweud hanes 'Fel Hyn y Bu', gan fod y gerdd yn ei ddweud ef yn gryno ddigon, a chan y bydd y rhai a glywodd Waldo'n ei adrodd yn helaethach, yn hynod anfodlon ar unrhyw ail ferwad a geir gennyf i, er ei bod yn weddus nodi fy mod innau'n ei gofio'n ychwanegu ambell damaid apocryffaidd, megis y sôn fod y brigâd tân wedi gorfod dod allan gyda'r heddlu i chwilio am y sbi%wr.

Os oedd y cread yn peri syndod i'r Iddew gynt, dylai'n gwybodaeth helaethach ni amdano beri inni synnu hyd yn oed yn fwy.

Yn aml iawn, yr oedd hi'n gyfoethocach ei geirfa a'i llenyddiaeth ac yn cael ei siarad tros rannau helaethach o'r byd na'r iaith leiafrifol.

Nid eu bod gymaint â hyrmy'n fwy mentrus o ran lliw - glas a gwyrdd yw'r prif rai - ond mae eu maint helaethach, a'r ffaith eu bod mewn dyfrliw yn hytrach nag olew, yn cyfleu byd goleuach a mwy breuddwydiol.

Rhaid bod Iesu wedi collfarnu Pilat fel y collfarnodd Herod; rhaid hefyd ei fod wedi dinoethi hunangais ac anghyfiawnder gwleidyddol yn llawer helaethach a manylach nag y gwelir ef yn gwneud yn ei sylwadau (ar y ffordd i Jerwsalem, megis ym Marc x.

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

A phe bai Ieuan Gwynedd wedi cael byw, efallai'n wir y byddai wedi cyfrannu'n helaethach i fywyd Cymru na Henry Richard a Thomas Gee.

Ond mae'n nodi'r diffygion hefyd: "Er mor bwysig yw'r datblygiadau hyn, erys llawer bwlch, yn enwedig o ran yr angen i gael helaethach amrywiaeth o ddeunydd cyfeirio ac adnoddau i gynnal gwaith project a gwaith topig yn y dyniaethau ac mewn gwyddoniaeth".

O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Weithiau gall dognau helaethach achosi iselder ysbryd, llesgedd a pharanoia mewn rhai unigolion rhagdueddol.

Os yw'n credu bod teulu a chymdogaeth yn sefydliadau sy'n gymorth i bobl gael bywyd helaethach nag a gaent hebddynt, ceisia'r gwleidydd sicrhau amodau sy'n help i'w cynnal a'u cryfhau.