Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heno

heno

Tro y Tîm Datblygu yw hi heno.

Aethon ni ar y blaen eto heno - ni wedi gwneud hynny yn erbyn Armenia ac yn erbyn Norwy.

Chwaraeir dwy gêm yng nghystadleuaeth Y Cwpan Cenedlaethol heno.

Fyddai ganddi ddim cywilydd ohono yn yr Hengwrt heno.

Mwy o hanes y brwydro ar y newyddion heno, a rhai manylion am y bechgyn a laddwyd.

Bydd yn gweld arbenigwr eto heno ac ofnir y bydd angen llawdriniaeth ar ei droed.

Cyrhaeddodd ugeiniau o'r llestri hyn heno, a chafodd rhai ohonynt eu dewis (?) i'w golchi a'u sychu erbyn y bore.

Un fras heno.

Byddai'n well iddo fod gartre heno rhag ofn y byddai Sam Llongau yn teimlo fel rhoi cweir i'w wraig.

Pob man yn wlyb heno er bod y glaw wedi diflannu ers oriau.

Hefyd heno yn y Cynghrair, Casnewydd yn chwarae yn Glasgow.

Chwaraeir y gynta o rowndiau cyn-derfynol Pencampwriaeth Euro 2000 - sef honno rhwng Ffrainc a Portiwgal - yn Rotterdam heno.

Heno mae'r gêm bwysig a 'does dim dwywaith y bydd Iwcrain yn dipyn gwell tîm nag oedd Armenia.

Ni welais i fy hun ddim o'r gwaith tyllu hefo llaw, felly rhaid bodloni ar hanes a glywais gan yr hen bobl, ac o bosib fod rhai yma heno sy'n gyfarwydd â'r gwaith ac y cawn dipyn o'r hanes ganddynt hwy ar y diwedd.

Yn y Cynghrair Cenedlaethol heno bydd Flexsys Derwyddon Cefn yn erbyn Y Drenewydd a Port Talbot yn erbyn Hwlffordd.

Os bydda ganddo fo stori newydd, mi fydda ar y ffôn - "Glywaist ti hon?" neu, "Dwi isio mynd i lle ar lle heno, sgin ti rwbath i mi?" Mae llawer yn gwybod iddo deimlo i'r byw na chafodd arwain y 'Steddfod Genedlaethol.

Yr un piws oedd y crandiaf, hwnnw a wisgai i ginio heno.

wel, beth mwy allwn ni ei wneud na charu'n gilydd?" "Caru'n gilydd ddigon..." "Os wyt ti'n torri dy galon fel hyn, tybed sut mae Romeo a Juliet yn teimlo heno?

Heno chwaraeir gêm gynta tîm datblygu Cymru ar eu taith yn Canada.

Mae Caerdydd yn yr wyth ucha ac os enillan nhw, a Brighton yn colli, efalle gwnan nhw godi i'r ail safle heno.

Fe'm trawyd heno, wrth edrych o gwmpas y clos, mor wag ac mor ddistaw oedd y sgubor.

Ond paid ag aros yn hir heno!" Arferwn yfed gwydraid bach o wisgi bob nos cyn cysgu.

Bu digon o drafod ganddynt ar lên Cymru yn gyffredinol, o Ganu Llywarch Hen i Tywyll Heno, o Drws y Society Profiad i Un Nos Ola Leuad.

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

Roedd rhaglen lawn o gemau yn Y Cwpan Cenedlaethol heno, ac wrth i'r timau nesau at rownd yr wyth ola, mae pethau'n dechrau cymhlethu.

Ond erbyn heno, newidiasai Enoc lawer o bethau, er gwaeth.

Mae ail gymal Cynghrair y Pencampwyr yn dechrau heno.

Mae un newid hwyr yn nhîm datblygu Cymru i chwarae Tîm A Canada heno.

Rwyn credu bydd tactegau Steve yn hollbwysig heno, meddai.

Ac fe ddaeth yn ôl fel hunllef i ddrysu ei synhwyrau heno.

Yr oedd yma weithgarwch heno, 'waeth pa mor amrwd a blêr, nad oedd yn ddiamcan.

Mae dwy gêm arall heddiw, Norwy yn erbyn Sbaen y prynhawn yma a Iwgoslafia yn erbyn Slovenia heno.

'Arhosa i gyda chi heno, Mam-gu,' meddai Seimon, a rhoi ei fraich o i hamgylch i'w chysuro.

Bydd Lerpwl, heno, yn y Weriniaeth Czech yn chwarae Slovan Liberets.

'Deng munud i wyth heno wrth y moniwment cofia,' oedd geiriau olaf Cen.

Mae tîm datblygu rygbi Cymru wedi cyrraedd Calgary ar gyfer eu gêm yn erbyn tîm Canada Ifanc heno.

Hyd heno.

Roedd yr hen gi bach fel petai'n synhwyro hyn, yn enwedig heno.

'Heno?'

"Lle ti'n mynd heno?" "I tŷ Charles i weld y telefision." 'Roedd teledu Charles yn bwysig iawn i lawer o bobl Bodffordd.

Ond rydyn ni'n cael ein siomi gyda'r bwyd; does yna ddim cyflenwad trydan yn Jijiga heno.

Ond go brin ei fod yn ei phoeni heno.

Ei di i unman heno?'

Bydd timau dan 21 Cymru a'r Iwcrain yn wynebu'i gilydd yn Abertawe, heno.

Mae'n gwestiwn gen i a oes 'na Gymro yn y stafell hon heno nad oes ganddo berthnasau naill ai yn Awstralia, Seland Newydd neu Ganada.

Cael cwmni Wil am awr heno.

Syrthiodd i mewn i'w gwely, ond gwyddai fod cwsg heno yn bell iawn oddi wrthi.

'Roedd hi'n edrych ymlaen at ei nos Wener arferol yn y Bingo heno.

Ond ei llygaid, ac nid ei gwallt, a wreichionai heno.

'Ga'i weld un waith 'to - jest un waith - be sy yn y bocs at heno, mam?

Mae gen i'r cŵn annwyl yma'n gwmpeini i mi, a'r gwningen heno.

Dwin gweld hyn yn digwydd eto heno.

Heno mae'r her yn wahanol - a mi fydd hi'n dipyn o her.

"Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle.

Yn ein haros heno mae Gaelle Mechaly o Ffrainc, Panajotis Iconomou o Wlad Groeg, Ekaterina Semenchuk o Rwsia, Markus Bruck o'r Almaen a Natalie Christie o Awstralia.

Rwy'n credu y byddai'n well gen i fod yn lle Heledd nag yn lle'r par pert 'na heno.

Peidiwch â phoeni," gwenai arnaf, 'Fydd hi ddim yn draed moch fel heno.

Mae Abertawe'n chwarae Penybont yn Nghynghrair Rygbi Cymru a'r Alban ar Sain Helen heno.

Mae clybiau pêl-droed Cymru sydd yn chwarae yn Lloegr i gyd â gemau heno.

Heno chwaraeir ail gymal yr ail gêm gyn-derfynol.

Dwi'n disgwyl gêm galed heno.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

'Mae hi'n waeth heno.

Bydd y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ceisio ateb beirniadaeth a sicrhau pwynt o leia yn y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl yn Warsaw, heno.

Heno 'roedd hi nid yn unig wedi colli decpunt, a hithe, am unwaith, wedi mentro prynu chwe llyfr, ond 'roedd he hefyd wedi colli gobaith ennill y belen eira a oedd erbyn hyn wedi cyrraedd hanner canpunt.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tþ wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

'A ydych yn meddwl,' meddai wrtho, 'y buaswn yn torri rhyw ddeddf neu yn pechu wrth alw cyfarfod gweddi heno yn Ysgol y Nant?

Wn i ddim...., na, hoffwn i ddim bod yn lle Marc ac Anita heno." Am ryw reswm, dechreuodd y dagrau lifo eto wrth iddi ddweud hynny.

I fynd lawr i'r dre bu hi'n marchogaeth y tu ôl i Rowland hyd yma, ond heno roedd y ffrog felfed las o dan ei chlogyn merino yn rhy gwmpasog iddi fedru rhannu ceffyl â'i gþr yn gyffyrddus.

"O, 'roedd Enoc fel beili mewn sasiwn heno." Erbyn i ni gyrraedd y stafell ginio yr oedd y lle'n ferw, a phawb yn cythru i'r bwyd.

Byddain fagddu ar rywun o droi at Tywyll Heno am gysur ar awr go ddyrys yn ei fywyd.

Aros heno ym Manceinion gyda ffrindiau, Rob ac Eleri, i gael hedfan i Munich yn gynnar yn y bore.

'Chei di ddim noswylio'n gynnar heno, Now Fawr.'

Gwenodd arnaf finnau a gwenais innau'n ôl, a dwedais, 'S'mai heno?' Hwyrach imi ymddangos yn rhy gyfeillgar oherwydd trodd yn ôl ac eistedd yn blwmp wrth f'ochr i.

Ac yn Rwsia heno, ac yn y Balcanau, mae'r gweithwyr yn rhydd.'

"Ond tydw i ddim yn cynnig sbarion i neb heno a hithau'n ddydd Nadolig fory.

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!

Mae chwaraewyr da gyda ni, chwaraewyr ifanc, a bydd 11 o'r chwaraewyr aeth gyda ni i Canada gyda ni heno.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

Yn y Cwpan Cenedlaethol heno bydd Y Barri a Wrecsam yn chwarae cymal cynta'u gêm nhw yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth.

Bydd yr athletwr o Gymru, Christian Stevenson yn cystadlu heno ym Manceinion yn y ras 3,000 metr dros y clwydi.

'Rhaid i mi gael un arall eto,' meddai Bleddyn, 'i ni gael un bob un i swper heno.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

Teledir uchafbwyntiau'r gêm heno ar S4C am 8.00.

Breuddwydiodd fod y llong yma'n mynd i suddo heno cyn cyrraedd Belg.

Gallu dwyn ar gof ran helaeth erbyn heno.

Mi rof i ganiad iddi heno.

Arhosodd Dilys yr ochr draw i'r bont a gweiddi, 'Rydw i'n mynd - wela i di heno.' Gwelodd Merêd fod rhaid ufuddhau ond gwnaeth hynny'n anfoddog iawn.

Ond doedd dim hanes am denant y fedwen hyd gyda'r nos heno.

Mae Glyn Ebwy wedi bygwth tynnu allan o'u gêm yn erbyn Dax yn Nharian Ewrop, heno.

Tro Manchester United a Leeds yw hi heno.

Bydd Barnet, sy'n ugeinfed yn y drydedd adran, yn dod i Barc Ninian heno gan wybod bod eu record nhw oddi cartre yn drychinebus.

Mae gêm Caerdydd yn erbyn Yr Amwythig heno wedi'i gohirio.

Rhedodd y merched o'r naill dþ i'r llall i baratoi ar gyfer y cymortha a gynhelid heno ym Mhlasgwyn i helpu gweddw Guto Pandy.

'Ond bydd tîm ifanc ar y cae 'da ni heno a'r cwbwl rwyn ddisgwyl amdano fel rheolwr y clwb yw ymdrech gant y cant.

Mae gemau Cwpan Heineken Ewrop yn dechrau heno gyda Llanelli a Chaerdydd yn chwarae.

Mae rhai o'r dynion wedi bod yno heno ac mae'r eira'n prysur gau'r ffordd sy'n arwain at y tryciau." "Gwylwyr?" "Dau filwr," atebodd Henri, "ac maen nhw'n newid gwylwyr bob pedair awr.

Sweden a Twrci, a gollodd eu gemau agoriadol yng Ngrwp B syn chwarae heno.