Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

henoed

henoed

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Roedd yn hoff o ganu a drama, yn gefnogol i'r eisteddfod leol a chenedlaethol a phob achos da yn yr ardal, yn aelod o Gymdeithas yr Henoed ac yn aelod ffyddlon o Gapel Ebeneser.

Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar o Eglwys Santes Fair Trefriw a Chymdeithas yr Henoed.

Bwriad yr arolwg fyddai mesur yr angen yng nghymunedau gwledig a threfol y dosbarth ynghyd â chyflwyno tystiolaeth am y math o angen lleol, boed hynny yn gartrefi ar gyfer yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd ar incwm isel a.y.

Cyn i Gyngor Henoed Gwynedd sefydlu'i annibyniaeth, sefydlwyd canolfan ddydd wirfoddol yn Nyffryn Ardudwy, gwnaed ymchwil i'r angen am ganolfannau dydd eraill yn Arfon, a chyd-weithiwyd a'r WRVS er sefydlu gwasanaeth siopa i'r henoed yn Arfon.

Peidwyd ag adeiladu tai cyngor - yn wir, gorfodwyd eu gwerthu - a chanolbwyntiwyd ar adeiladu tai henoed yn ein pentrefi.

Yn 1997 y daeth Beryl i Gwmderi gynta a hynny oherwydd ei bod hi'n anhapus iawn yn y cartre henoed ble'r oedd hi'n byw.

Ieuenctid anniddig a henoed cysglyd yn cyd-lawenhau.

Pe bai hi'n mynd yn dwll arno a gorfod mynd i gartre' henoed, ni welai yn ei fyw pam y dylai dalu mwy yno am ei fod wedi cadw rhyw geiniog neu ddwy.

Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.

Trwy gyd-gysylltu a Chyngor Henoed Gwynedd a'r Uned Hybu Iechyd llwyddwyd gyda'r cais wnaed i'r Swyddfa Gymreig i sefydlu swydd hybu iechyd yr henoed.

Cyfraniad pwysig oedd hwn o gofio mai golygydd oedd i bapur yr henoed a chylchgrawn yr Undodiaid, dau ddosbarth o bobl a dueddai 'gael eu damsgen dan draed', chwedl ef.

Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyllid i gyflogi gweithiwr datblygu llawn-amser i Gyngor Henoed Gwynedd.

Y canol oed a'r henoed sy'n dioddef ohono fynychaf.

ac y mae Pwyllgor Henoed Y Felinheli wedi elwa oherwydd hynny.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Gellir edrych ar ddefnydd o gynorthwyon o'r fath un ai fel colli annibyniaeth a symudiad o'r byd abl i amgylchedd anabl, neu fel symudiad o ieuenctid i henoed efo'i holl ddelweddau negyddol.

'Dyw'r feistrolaeth honno ddim cystal yn y baban, y ffaeledig a'r henoed ag yw yn y canol oed, gan nad yw'r ymateb mor gyflym.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Byw ar bensiwn henoed yr oedd Snowt yn awr.

Gwyr pawb am John o Gaergybi i Lerpwl ac erbyn hyn mae yng nghartref yr henoed ym Mhenrhyndeudraeth yn tynnu am ei - gwlyb.

cartrefi nyrsio, cartrefi preswyl, darpariaeth tebyg i Abbeyfield a darpariaeth arbenigol henoed dryslyd