Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

henw

henw

'No, it really is' meddai y fenyw ac wedyn dyma hi yn cyflwyno ei hun wrth ei henw a minnau yn sythu i fyny yn y gwely mewn panig ac ymddiheuriadau llawn.

Yn yr erthygl hon mae Jane Cartwright, sy'n fyfyrwraig ymchwil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Coleg Caerdydd, yn egluro pwy oedd Dwynwen a pham y cysylltir ei henw â gþyl y cariadon.

Ond y mae dau actor a ddaeth i enwogrwydd oherwydd eu henw fel dynion gwyllt yn Gladiator.

"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.

Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.

Dynes oedd hi, a'i henw oedd Lavinia Derwent.

Yn amlwg, roedd yn gwybod ei henw.

Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.

Mae'n ffordd ryfedd o dynnu blewyn o drwyn rhywun - ond y ffordd fodern o sarhau rhywun yw gwisgo crys T gydau henw arno.

Nodir yr afon yn glir gan y mapwyr cynnar ac mae Christopher Saxton a John Speed ill dau'n a dangos hi er eu bod yn camsillafu'i henw ac yn ei galw'n Gynt.

'Mari Graham Moss' oedd ei henw iawn, 'Mrs Maria Graham Walwyn' wedi iddi briodi a Harry Walwyn, ymfudwr i Gymru o Barthau Sir Henffordd.

Meddylwyr gofalus yn eiddigus o deilyngdod a gweddusrwydd unrhyw beth a ddwg eu henw.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

Dywedodd hi mai dim ond ar ôl iddi ofyn cyngor ei merch y cynigiodd ei henw am uchel swydd o fewn y Blaid.

Mrs Trench oedd ei henw, sef gwraig Arolygwr Stad Arglwydd Penrhyn.

"Onibai mod i wedi gofalu cadw Fflwffen yn y tŷ rydw i'n siwr y byddai ei henw hithau ar y rhestr hefyd.

Y ffaith fod gan Edward H gymaint o ganeuon da gadwodd eu henw rhag ymddangos yn amlach ymhlith y cant uchaf gan i hynny deneuo y bleidlais i ganeuon unigol.

Eu henw nhw arno fo oedd cacuro de carnero neu Cachu Defaid fel byddai Taid Dulas yn 'i alw fo achos bod i Sbaeneg o mor glapiog.

Pan oeddwn i'n grwt ar Gefnbrynbrain ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd o leiaf dri gŵr yn y pentref a gadwai filgwn, a Dai Milgwn oedd ein henw ar un ohonynt.

Ei henw hi oedd Catrin ferch George ac o Groesoswallt y deuai'n wreiddiol, yn ferch i rieni tlawd ond parchus, yn ôl Morgan.

Mae hyn i gyd yn annistryw, y tu allan i Amser, ond yn ol ein cyfri a'n henw ni yn orffennol.

Petai rhywun wedi dod o hyd i'm henw yn llyfryn nodiadau rhyw derfysgwr mi allwn fentro y buasen nhw'n clustfeinio ar fy sgyrsiau ffôn.

Os yw haeriad Lewis Morris yn gywir y cyfeiriad dogfennol cyntaf at yr afon (er, nid yn benodol wrth ei henw) yw hwnnw a geir yn Historia Britonum Nennius, gwaith a luniwyd dros fil o flynyddoedd yn ôl.

Tra roedd yn Plas Mawr, yr oeddwn wedi sylwi fod ei PPS Michael Allison yn cario clip bord gydag o, er mwyn hwyluso gwaith Mrs Thatcher pan oedd yn torri ei henw i wahanol bobl.

Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.

Tyfodd y ddinas yn y lle cyntaf yn y dyffryn lle y mae Afon Sheaf(sydd yn rhoi ei henw i Sheffield) yn cyfarfod â'r Afon Don.

roedd ei henw hi ar yr amlen, onid oedd?

Erbyn hyn mae ei henw yn adnabyddus i garwyr cerdd ledled y byd.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.

Bellach mae pawb yn Rwsia yn awyddus iawn i gyfarch Mrs Thatcher wrth ei henw iawn, ac am ganmol yr hyn y mae hi, yn eu tyb hwy, wedi ei gyflawni.

mae'r rhaglen Dan yr Wyneb yn driw i'w henw.

Ond nid y tu draw i'r Mynydd Du yr oeddwn yn gwrando ar Esther Pugh yn canu emyn; er gwaetha sþn Cymreig ei henw nid Cymraes mohoni.