Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

heol

heol

Gadawodd Craig Ryall ei gartre yn Heol Illtyd, Pentre'r Eglwys, Pontypridd, am naw o'r gloch nos Iau.

A chyn inni gyrraedd Pencader gwelsom eu Hallegro lliw'r cwstard yn tynnu i mewn i'r clais yn ymyl y bont sy'n croesi'r heol sy'n arwain i Landysul.

yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...

A chynigiodd yr un gwr ddau swUt i minnau os awn, dywedais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Pawr oddi amgylch yr HaU yng nghanol y dref yn noethlyrnun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweld, nes yr aeth yn sal.

Heol garegog, igam-ogam, yn llawn llwch a darnau mawr a bach o garreg dawdd.

Symudodd JE o Lundain i Gaernarfon, ac mewn ystafell tu cefn i Westy Pendref lle lletyai bu Swyddfa'r Blaid nes y symudodd yn ddiweddarach i ystafelloedd ehangach yn Heol y Castell.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

Pleser munud awr yw'r cyfan yn y dafarn gyda'r blys, A'r teulu bach yn goddef angen, rhai o'r plant yn llwm eu crys: Ac heb ddillad ar eu cefnau, heb esgidiau am eu tra'd Pennoeth, coesnoeth ar yr heol yn newynllyd iawn eu stâd.

O ran digwyddiadau Radio Cymru, yr uchafbwyntiau efallai oedd Kevin a Nia'n cwrdd â nifer o blant gorllewin Cymru o ysgolion Penygroes yn Crosshands, Ysgol Llannon, y Tymbl, ac Ysgol Pump Heol yng Nghwm Gwendraeth.

Ar noson y trawsnewid o un hanner o'r flwyddyn i'r llall, yr oedd nerthoedd goruwch-naturiol yn cael tragwyddol heol, felly amser i gymryd gofal yn ogystal ag i lawenhau yn nyfodiad haf oedd Calan Mai.

Ildiodd o'r diwedd a mynd yn ôl at ei waith yn Heol Corporation.

Y diweddaraf ydy dwyn blodau o erddi ffrynt rhai o day yn Heol Dewi.

Maddeuodd Ali iddi a dychwelodd y teulu am gyfnod byr i Gaerllion cyn symud i Heol Grafton, efallai er mwyn bod ymhellach oddi wrth demtasiwn Martin Charles.

Gwn fod un o chwiorydd tad fy mam yn briod a gwr o'r enw Pearson ac iddynt fynd i fyw yn Heol Jwbili, Cwmaman, Aberdar, lle yr oedd Mr Pearson yn mwynhau tipyn o fri lleol ar bwys ei allu anghyffredin i dyfu rhosynnau hyfryd.

Cafodd gyfle i siopa rywfaint yn Heol y Bont-faen ar y ffordd, a chael sana a chig moch a bara, a hannar ffag efo Elsi ar y bws wedyn!

Ac yn awr dyma fe'n gorwedd ar ganol yr heol, ei ben yn ysgafn gan ryw syrthni rhyfedd.

Digwyddasom fod gyda chyfaill ar un o'r heolydd sy'n rhedeg i Broadway - prif heol New York - a chlywem oddi draw sŵn y band yn chwareu.

Ni wnaeth Horton sylw pellach ond ar ol ysbaid, cododd ei ben a gyrrodd ei geffyl nol a blaen ar hyd yr heol.

Yn Heol y Beddau yr oedd villa Cicero lle bu'r hen frawd yn byw adeg y Rhyfel Cartref.

JOHN MAJOR Ar waelod Heol Clwyd yr oedd y carchar.

Eisteddai'r hen þr yn syllu trwy'r ffenest ar y bobl fel yr oedden nhw'n cerdded ar hyd yr heol.

Toc, ail ymunodd ei fyddin ag ef a phrysuro ar hyd yr heol i Aberhonddu.

Ond wrth droi tro sydyn ar yr heol, pwy ddaeth i gwrdd ag ef ond Ffantasia o deulu'r Tylwyth Teg.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

Mae wrth ei fodd yn ei blannu ei hun 'wrth olwyn fawr felyn' car newydd Lleifior a'i yrru hyd 'heol fawr Henberth, â llygaid ambell un tlotach na phlant Lleifior yn syllu'n eiddigus ar ei ôl'.

Roedd yn rhaid cael offer gefail a gwyddent fod un yn weddol agos - dim ond ychydig ffordd i lawr yr heol fach gul a welent o'u blaenau.

Nid yw'n syndod fod plant ar ben heol yn ceisio denu milwyr i gysgu gyda'u chwiorydd - a'u mamau hefyd, fel y clywais.

Wedi i'r undebwyr nodi eu hatebion ar bapur, croesodd un o brif weision suful y Bwrdd yr heol i Downing Street, i hysbysu'r Prif Weinidog am safbwynt yr undebau.

Yn anffodus, mae un gêm - honno ar Heol Farrar rhwng Bangor a Chaerfyrddin - wedi ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Bydd Caerlyr yn ymweld â'r 'House of Pain' - Heol Sardis - i chwarae yn erbyn Pontypridd heno.

Y tu ol iddynt, ymestynnai'r fyddin yn rhibyn hir ar hyd yr heol.

Neithiwr ar gae Heol Sardis fe guron nhw Glasgow, 41 - 18.

Cafodd Raewyn Henry o Heol Marshfield, Cas-bach, ddirwy o £150 a'i gorchymyn i dalu costau o £30.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.

Roedd un yn edrych mas drwy ffenest ac yn diawlio Ail Ardalydd Bute y saif ei gofgologn bygddu ar waelod Heol y Santes Fair.

Aeth sawl gwaith i Heol Grafton ond heb ei gweld.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Safai'r efail a bwthyn y perchennog ar ymyl yr heol a llonnwyd pawb o weld y mwg yn esgyn i'r awyr.