Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hil

hil

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.

Yr oedd berfa mor wahanol i weddill hil olwynog ei chyfnod am ei bod mor ddibynnol ar ddyn.

Ond y neges bwysicaf i'r cadwriaethwyr oedd bod yn rhaid i ddoethineb a phrofiad yr oesoedd gael cyfle i ymdreiddio i gof yr hil o'r naill genhedlaeth i'r llall.

Cytunodd cadeirydd y tribiwnlys y dylai gwrandawiad llawn gael ei gynnal i honiadau bod y fyddin yn gwahaniaethu'n annheg ar sail hil.

A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.

Yn y cyfamser, fel y bu ers degawd a mwy, roedd miliynau o hil y caethweision yn marw o newyn ar wastadeddau sychion Eritrea a Somalia.

'Hil y Meistri?' gofynnodd Gethin yn chwilfrydig.

Gan fod cymaint ohonom, cymaint o unedau gweddol unffurf, mae yna debygolrwydd fod y rhan fwyaf o'r hil yn mynd i ymateb mewn modd y gellir ei ragfynegi gyda pheth sicrwydd.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Yr un oedd dyhead y ddau dros barhad yr hil.

Mae ail fileniwm y cyfnod ers Crist yn tynnu at ei deryfn a'r hil ddynol, mae'n ymddangos, yn anterth ei wallgofrwydd.

Mae Maengwyn yn ffrind i'r Arwydd o hil gerdd a diolchwn yn gynnes iddi eto am lawer iawn o bethau.

Ond fydda hi ddim yn addas i Hil y Meistri lafurio pan mae hiliau israddol, gyda'r galluoedd angenrheidiol, ar gael.'

Nid rhyfedd i feirdd megis Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal roi cymaint pwyslais ar y 'Tŷ bonedd (a'r) Tŷ rhywiog' ynghyd â'r 'beunydd hil bonedd helaeth'.

Cynrychiolydd yr hil ddynol a'i dirprwy oedd Crist yn ôl syniadaeth Paul, a fu'n ufudd hyd angau'r groes a thrwy hynny gymodi dyn â Duw.

Doedd yr un weithred fudr gan aelodau'r hil ddynol yn ei synnu ef bellach.

Yn ystod ein cyfnod yn Kampuchea fe ddaethon ni i wybod fod yna gynhadledd ar hil- laddiad yn cael ei chynnal.

Lle y mae gwahaniaeth hil, dwyseir cenedlaetholdeb y ddwy blaid.

Dyna ddiwedd ar yr hil am byth.

arwyddlun o'r hil archolledig oedd y Cripil, y llwythau hynny o bobl y rhoddai Elystan unrhyw beth am allu eu hysgwyd o'u diymadferthwch a rhoi anadl newydd ynddynt.

Nid un o hil ddaearol a ddichon weld cors a dwy frân a'u galw'n moorland with excellent shooting.

Cynrychiolydd yr hil ydoedd yng nghyflawnder ei ddyndod: 'Am hynny, yr oedd yn rhaid iddo, ym mhob peth, gael ei wneud yn debyg i'w frodyr, er mwyn iddo ...

'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Yr henwlad annwyl; neu Ethiopia - yr hen wlad yng nghof yr hil...

Daw Lucien Bouchard o Lac Saint-Jean, ardal lle mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn uniaith Ffrangeg ac yn genedlaetholwyr o hil gerdd.

Os mai tynged yr unigolyn yw marwolaeth, mae yna baratoad i gynnal yr hil.

Ac wrth ymwneud â hwnnw y mae hefyd yn etifeddu dylanwadau a thraddodiadau ei hil, ei lwyth, ei genedl a'i deulu.

Hefyd yn achos deddfau hawliau'r anabl, camwahaniaethu ar sail hil neu ryw, nid deddfau i'r sector cyhoeddus yn unig ydynt.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.

Sicrhau parhad yr hil yw'r rheswm am hyn, fel pe deuai gelyn o hyd i un ohonynt, byddai gobaith i'r gweddill.