Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hiwmor

hiwmor

Y mae elfen gref o hiwmor yn rhai o'r straeon, ond nid jôcs mohonynt chwaith - dyma enghraifft:

Mae hiwmor naturiol y grwp yn cael ei adlewyrchu yn eu cerddoriaeth, sydd yn debyg i'r hiwmor sy'n cael ei ddangos yng nghaneuon Anweledig.

Cymeriad eitha sionc a diflewyn ar dafod yw'r hen wraig ac mae yna ddigon o hiwmor yn y ddeialog rhyngddi hi a'i hwyres.

Ac, eto, bob hyn a hyn, fe fyddai'n codi'i ben yn herfeiddiol a fflach o hiwmor dygn yn dod â gwên i'w wyneb.

Jones (Arglwydd Maelor) yn arwain Noson Lawen, a'r plant fel angylion yn canu ac yn adrodd, a hiwmor a drama amser Lecsiwn - y Neuadd dan ei sang - yn gwrando ac yn heclo pan oedd galw.

Sefydlodd cyfres deledu gyntaf Owen Money ar gyfer BBC Cymru, American Money, y seren o BBC Radio Wales, fel cyflwynydd teledu poblogaidd a oedd yn amlwg yn mwynhau ei hun, ac roedd Whole Lotta Money yn gyfuniad celfydd tebyg o hiwmor a cherddoriaeth roc.

Cwestiynau oedd yn procio'r meddwl wrth wylio a mwynhau perfformiad pedwar actor dawnus mewn sefyllfaoedd o wir dyndra ar adegau ac yn llawn hiwmor dro arall.

Ond peidiwch â digalonni, da chwi, gan fod yma ddôs o farddoniaeth sy'n llawn hiwmor yn ogystal â heintiau.

Mi gewch 'rwy'n siwr, bwff o chwerthin wrth ddarllen am ei hiwmor, a'i ffraethineb, y pethau doniol hynny sy'n perthyn i Charles a dim ond Charles.

Cofiwn am eu hanwyldeb, eu hiwmor a'u caredigrwydd.

Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy'n taro'r hoelen ar ei phen.

Fel yn y lleill mae na ddoniolwch yn stori Cosyn gyda hiwmor yr awdur yn sefyll yn y cof.

"Mae ganddi ffordd wahanol o edrych ar bethau a hiwmor eitha gwahanol," meddai Ann Fôn, cynhyrchydd Mêts yn y Stêts.

Gŵr abl, meistr ar ei broffesiwn, a'i hiwmor tawel yn brigo i'r wyneb bob hyn a hyn.

Doedd hiwmor ddim yn brin chwaith y llynedd gyda fersiwn Cymru o The Fast Show sef Lucky Bag yn ymddangos ar ein sgriniau.

Fy hoff gerdd yn y gyfrol yw Pwy? lle mae Selwyn Griffiths yn cyfuno diniweidrwydd cwestiynau plant ƒ hiwmor mewn ffordd hynod o effeithiol.

Yn ogystal a hynny, roedd Syr Thomas yn gwmniwr gyda'r mwynaf ei galon a'r gwreiddiolaf ei hiwmor.Fel Tom Parry yr adweinid ef ym Mangor mewn cyfnod cynharach, ag ef oedd ffefryn ddarlithydd y dosbarth Cymraeg.Roedd ganddo bresenoldeb a phersonoliaeth oedd yn llwyr arbennig, heb son am ddawn i draethu'n feistraidd a chyson ddiddorol.

Trinir popeth gyda'r un gofal, yr artist a'r gwahanol betheuach, y cyfan gyda hiwmor tawel, slei.

Ond teimlaf fod cyfleoedd i drosglwyddo'r hiwmor wedi'u colli yn y cyfieithu wrth gadw'n rhy agos at y gwreiddiol.

Fe fyddai'n meddwl heddiw, wrth weld cymaint o ysgariadau, y basa dôs go lew o hiwmor yn help i leihau'r tyndra.

Hiwmor yw ton lywodraethol y llyfr.

Yn ffodus yr oedd ganddi sens o hiwmor a deallodd y sefyllfa.

Mi 'roedd nhad yn gwylltio'n gacwn, am ychydig eiliadau, a wedyn fel bo cyffur hiwmor yn treiddio mewn i'w wythiennau a'i holl gorff a'i feddwl yn cael ei ddylanwadu, mi fydda fo'n mynd yn fud ac fel fyddech yn gweld, bron yn clywed, olwynion ei ymennydd yn troi ffwl sbid i geisio cynhyrchu llinell ddoniol i ddod allan o'r gwylltineb.

Mae'n anochel y bydd y gohebydd yn cydymdeimlo fwy gyda milwyr o'r un wlad neu genedl ag ef ei hunan, sy'n siarad yr un iaith, yn ymwybodol o'r un hanes, neu yn rhannu'r un hiwmor.

Ceir ynddi ddigonedd o hiwmor cynnil a nobl sy'n ysgafnhau'r digrifwch ac yn deillio ohono.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Trïa gadw dy ysbryd a dy hiwmor - byddi di angen e cyn diwedd yr wythnos.

Roedd yn y meddyg hefyd ffrwd hynod o hiwmor.

Roedd yn well gan y mwyafrif ohonom ni fodloni ar sylweddoli fod pennaeth y Politburo hyd yn oed yn berchen ar dipyn o hiwmor!