Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hochor

hochor

Pan ddaeth yn ddiwrnod mynd â'r ferfa allan am y tro cyntaf, a chychwyn o dop y cae tu ôl i'r tū efo hanner ei llond o gerrig, dim ond tua chwarter y ffordd i lawr y daeth na chraciodd yr olwyn wrth yr echel a throi ar ei hochor yn ddau ddarn a'r ferfa ar ei thrwyn yn y ddaear.

Bu'r wasg yn llawn yr wythnos hon yn condemnio y Daily Mirror am ymyrryd a phreifatrwydd pobol, ond doedd neb yn cwyno am Nia -- ddim hyd yn oed un wylwraig a oedd a llond ceg o sandwich wy pan ymddangosodd Nia fel huddug i botes wrth ei hochor!

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

Yr oedd tair 'C' y Caernarvonshire County Council mewn llythrennau duon ar ei hochor hi.