Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoed

hoed

Ysgrifennodd ef i bobl fach fel yr oeddwn i y pryd hynny a chafodd eu sylw; ysgrifennodd i bobl o'm hoed i heddiw ac ystyriant ef yn fawr.

Daeth Mam gyda mi i roi f'enw a'm hoed a'm gofal i'r athro newydd.

Ydyn ni'n teimlo'n hoed y bore 'ma?

Mae rhywbeth yn wyrdroedig yn y peth: nid perfert fel yr hen ddyn budr, ond merch gall yn ei hoed a'i hamser yn prynu papur 'Dolig ym mis Medi neu'n waeth byth, yn rhuthro am sêls ddechrau ionawr i brynu anrhegion at y 'Dolig nesa'.

Roedd merch yn eistedd ar fainc ac wrth imi ofyn a oedd ganddi newid o ddeuswllt, dywedodd Brynle, 'He wants to watch trains.' Gyda gwên arbennig i mi, rhoes y ferch bedair ceiniog imi a dweud, 'There you are dear, you go and watch your trains,' fel petai'n ansicr o'm hoed.

Y fron hon o hoed gordderch Y sydd yn unchwydd o serch; ...