Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoelio

hoelio

meddai, braidd yn ddiymadferth eto, ond roedd sylw hwnnw wedi'i hoelio ar y ffordd o'i flaen.

Byddai'r gof druan i mewn ac allan o'r efail yn gyson i ffitio'r pedolau, ac yn y diwedd eu hoelio ar y carn.

Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".

A minnau drwy'r ystryw seicolegol a elwir yn ddisodliad a dirprwyaeth yn bachu ar ei drwyn ac yn hoelio fy nghasineb at y Parch.

Tueddai yn awr i esgeuluso'i farf a'i olwg yn gyffredinol wrth hoelio'i sylw'n unplyg ar yr helfa hon.

Roedd, fel y stribedi o olau hynny, yn edrych yn ddibwys i'r byd mawr swyddogol y tu allan gyda'r sylw i gyd wedi'i hoelio ar oleuadau mwy fel y golau a fyddai'n hofran, yn y man dros Abertawe.

Wrth graffu gwelai fod miloedd ohonyn nhw yno, ac er na fedren nhw symud roedd llygaid pob un wedi eu hoelio arno ac yn ei ddilyn wrth iddo hercian i ganol y llawr.

Fyddai cynnig cyfieithiad o'r alanas yr oeddwn i ar fin ei weld ddim yn hoelio sylw'r gwylwyr, nac yn gwneud stori dda.

Torrid llinyn ei fogail allan a'i hoelio i dderwen, yna fe i gorfodid i gerdded o gwmpas y goeden nifer o weithiau nes bod ei berfedd wedi ei dynnu allan a'i ddirwyn o gwmpas y pren - bywyd am fywyd.

Ond yn wahanol i hynny yng ngolwg pawb roedd wedi hoelio'i gymeriad ar un o helion uchaf boneddigeiddrwydd y fro, heb orfod adio dim at ei daldra'i hun.

Ceisiodd Carol gysuro Guto a sicrhau Owain fod popeth yn iawn; yn wir, roedd hi'n falch o fedru ymateb i'w gofynion syml er mwyn hoelio ei meddwl ar y presennol ac ar y fan a'r lle, a thrwy hynny gadw'r cwestiynau ofnadwy draw.

Ond mae hefyd wedi bod yn fodd i hoelio sylw ar y ddarpariaeth a wneir ar gyfer plant dan bump.

Roedd PC Llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel Nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Y mae'r penwyr polisi%au, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r perygl hwn, ac wrth lunio polisi%au cyweiriol maent yn ceisio rhagweld yr hyn sy'n debyg o ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod yn hytrach na hoelio eu sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y misoedd a aeth heibio.

Fyddai hynny ddim yn bosib,wrth gwrs, am bod Llafur yn hoelio'i hapêl bron yn llwyr ar Mr Blair ei hun.

Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.

Canfu'r bardd y dyluniad beiddgar hwn 'yn fap o Gymru a ymddangosai fel petai wedi hoelio at ei gilydd ddarnau o ddefnydd amrywiol, darnau o bren haenog wedi'u peintio neu ddarnau o fwrdd wedi'u gorchuddio gan frethyn.