Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoelion

hoelion

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Bum mewn cyfarfodydd pregethu yno amryw o weithiau yn gwrando ar rai o'r "Hoelion Wyth" a'r capel yn orlawn, a chanu bendigedig er nad oedd offeryn yno'r pryd hynny.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Baglais yn fy mwtias hoelion mawr i fyny'r dorlan efo'm gêr a'r wobr.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Neges anobaith oedd gan hwn hefyd, ac nid oedd gan Gristnogaeth ddim i'w ddweud wrtho: Rhith yw geiriau y gau ŵr a'th garodd, Y gŵr a'r hoelion y gŵr a wylodd.

Gwelodd y ddau yr olion esgidiau hoelion yn mynd i bob rhan o'r tŷ, ond ddim i'r llofftydd.

Tros bechadur buost farw, Tros bechadur ar y pren, Y dioddefaist hoelion llymion, Nes it orfod crymu'th ben; Dwed i mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr?

Yno hefyd y sicrheais res o gofiannau prin i bregethwyr y Cyfundeb, cofnodion Sasiynau cynnar a llond bocs o bregethau rhai o'r "hoelion wyth".

Ac oherwydd y tywyllwch a ddeddfwyd fel rhwystr i awyrennau bomio'r gelyn, ni fu'n bosibl i rai o hoelion wyth yr enwad ddod yno i roi eu sêl a'u bendith ar weithgareddau'r dathliad.

Ar y llawr llechi yr oedd olion esgidiau dyn - esgidiau hoelion mawr.

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.